Cymrodyr er Anrhydedd a VIPS
Byddwch yn rhannu eich diwrnod gyda llawer o westeion nodedig, gan gynnwys Cymrodyr er Anrhydedd eleni, aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a Swyddogion Anrhydeddus.
Gallwch ddisgwyl gweld amrywiaeth eang o westeion yn y Digwyddiadau Graddio, neb llai na'ch cyd-raddedigion a'u cefnogwyr, Pennaeth Ysgolion, academyddion, staff yr ysgolion a’r gwasanaethau proffesiynol a nifer o bobl eraill gan gynnwys:
Cymrodyr er Anrhydedd 2023
Gweler y rhestr lawn o Gymrodyr er Anrhydedd 2023.
Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB)
Y Bwrdd yw uwch dîm rheoli'r Brifysgol, a bydd nifer o'r aelodau hyn o’r staff yn ymuno â chi ar gyfer y Graddio. Ymhlith yr aelodau presennol mae: Y Llywydd ac Is-Ganghellor Yr Athro Colin Riordan, Y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Damian Walford Davies, Y Rhag Is-Gangellorion a’r Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr TJ Rawlinson.
Swyddogion Anrhydeddus
Bydd ein Swyddogion Anrhydeddus hefyd yn bresennol, gan gynnwys y Canghellor, y Farwnes Jenny Randerson, Cadeirydd y Cyngor.
Mae llawer o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn arweinwyr blaenllaw yn eu maes - yma, cewch wybod rhagor am gynfyfyrwyr Caerdydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein byd ni heddiw.