Ewch i’r prif gynnwys

Ar y diwrnod

Diweddarwyd: 15/07/2024 13:13

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein graddedigion a'u gwesteion i’r Seremoni Raddio. Dyma deg peth i'ch helpu i ateb eich cwestiynau munud olaf a sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich diwrnod.

1. Rheoli eich trefniadau

Mae ein partneriaid yn rheoli'r archebion rydych chi wedi'u gwneud drwy e-bost. Ymhlith y rhain y mae’r canlynol:

Bydd y ddau yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr yn ystod yr Wythnos Raddio.

Er diogelwch, cadwch at bob un o’r mesurau diogelwch, hysbysiadau rhybudd a chyfarwyddiadau, gan ymddwyn yn gyfrifol yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Bydd Diogelwch ar waith ar y safle a bydd gwiriadau diogelwch llym a chwiliadau yn cael eu cynnal.

Os bydd angen cymorth cyntaf arnoch chi, gofynnwch i aelod o staff neu ewch i dderbynfa Cyswllt Myfyrwyr ar y llawr gwaelod.

2. Cael eich tocynnau digidol

Bydd angen tocyn arnoch chi a’ch gwesteion i fynd i mewn i’r seremoni raddio yn yr Utilita Arena yn ogystal â Derbyniad eich Ysgol yn y Gerddi Graddio. Mae'r un tocyn yn cael ei ddefnyddio yn y ddau ddigwyddiad.

Mae tocynnau digidol wedi'u e-bostio at yr holl raddedigion (o 10 Gorffennaf). Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost hwn neu os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â Marston Events. Rydyn ni’n argymell lawrlwytho’r tocynnau ymlaen llaw er mwyn osgoi problemau ar y diwrnod o ran Wi-Fi.

Dim ond â thocynnau y gallwch chi gymryd rhan. Oherwydd mesurau diogelwch llym yn yr Utilita Arena, ni fydd tocynnau ar gael ar y diwrnod.

Os na allwch chi ddod i’r seremoni, bydd y seremoni yn cael ei darlledu’n fyw ar-lein ac yn Undeb y Myfyrwyr.

3. Casglu a dychwelyd eich gwisg academaidd

Efallai y bydd gofyn ichi fynd i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr y noson gynt neu ar eich diwrnod graddio i gasglu eich gwisg academaidd.

Mae’n rhaid ichi ddychwelyd eich gwisg academaidd i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ar eich diwrnod graddio.

4. Cerdded rhwng y lleoliadau

Rhowch ddigon o amser i gerdded rhwng y lleoliadau, gan sicrhau eich bod yn cyrraedd 30 munud cyn amser dechrau’r seremoni.

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a’r Gerddi Graddio’n agos at ei gilydd, a dim ond ychydig funudau y mae’n eu cymryd i gerdded rhyngddyn nhw.

Mae’n cymryd tua 20 munud i gerdded rhwng y Prif Adeilad ac Utilita Arena, fel y dangosir ar ein map.

Peidiwch â dod â bagiau neu eiddo gormodol i'r Graddio. Mae cyfleusterau ystafell gotiau yn gyfyngedig yn Utilita Arena ac nid ydynt ar gael yn ein lleoliadau eraill. Gweler rhagor o wybodaeth am wiriadau a chwiliadau bagiau diogelwch. Ni ddylai graddedigion fynd â bagiau i'r llwyfan. Dylid trosglwyddo bagiau i westeion i'w cadw'n ddiogel yn ystod y seremoni.

Map graddio 2024

Edrychwch ar ein map syn manylu lleoliadau digwyddiadau Graddio 2024.

5. Eich Seremoni Raddio yn yr Utilita Arena

Gall eich seremoni ddigwydd cyn neu ar ôl derbyniad eich ysgol; ystyriwch hyn wrth gynllunio. Bwriwch olwg ar yr amserlen.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd yr arena, mae’n rhaid ichi fynd yn syth i’r Ddesg Casglu Cardiau Enw er mwyn casglu eich cerdyn enw. Bydd angen cerdyn enw arnoch chi i groesi’r llwyfan yn ystod y seremoni. Rydyn ni’n gofyn i westeion beidio ag aros gyda chi a mynd i’w seddi er mwyn cadw’r lle yn glir.

Mae’r seddi’n cael eu dyrannu ymlaen llaw a bydd y manylion ar eich tocynnau digidol. Nid oes modd newid y rhain. Ni ddylid rhannu tocynnau.

Bydd gofynion mynediad llym (maint bagiau, bwyd a diodydd ac ati) yn yr arena, felly bydd gwiriadau diogelwch wrth ichi gyrraedd.

Er mwyn sicrhau eich diogelwch:

  • Cadwch at bob un o’r mesurau diogelwch, hysbysiadau rhybudd a chyfarwyddiadau, gan ymddwyn yn gyfrifol yn yr Utilita Arena. Bydd staff yr arena, y Brifysgol yn ogystal â thîm diogelwch yn yr arena.
  • Os bydd argyfwng, defnyddiwch yr allanfeydd argyfwng - bydd arwydd wrth y rhain - a dilynwch hefyd y gweithdrefnau dan arweiniad y staff.
  • Os bydd angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, rhowch wybod i aelod o’r staff.

6. Derbyniad eich Ysgol yn y Gerddi Graddio

Hwyrach y bydd Derbyniadau’r Ysgolion yn cael eu cynnal cyn neu ar ôl eich Seremoni, felly cynlluniwch ymlaen llaw gan gadarnhau’r amserlen.

Bydd staff Diogelwch yn y Gerddi Graddio ar gyfer Derbyniadau’r Ysgolion. Byddwn ni’n gofyn am gael gweld tocyn pob gwestai wrth iddyn nhw gyrraedd. Os bydd argyfwng, defnyddiwch yr allanfeydd argyfwng - bydd arwydd wrth y rhain - a dilynwch y gweithdrefnau dan arweiniad staff y Brifysgol.

Bydd parafeddygon ar y safle. Os bydd angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, rhowch wybod i aelod o’r staff.

Lleoliad newydd ar gyfer y Gerddi Graddio a tharfu posibl

Fel y soniais yn yr e-bost diwethaf, mae nifer fach o'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn protestiadau am y gwrthdaro yn Israel a Gaza. Mae hyn yn cynnwys gwersyll ar Rodfa’r Bedol y Prif Adeilad, ein lleoliad traddodiadol ar gyfer y Gerddi Graddio, yn ogystal â'r posibilrwydd o brotestiadau yn ein lleoliadau eraill sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y Seremonïau Graddio.

Ein blaenoriaeth o hyd yw lles ein myfyrwyr, ein staff a’n hymwelwyr, a dyna pam rydyn ni wedi cymryd y mesurau rhagofalus canlynol:

  • adleoli’r Gerddi Graddio a derbyniadau’r Ysgolion i Rodfa’r Brenin Edward VII (Adeilad Morgannwg)
  • adleoli'r ŵyl bwyd, diod a cherddoriaeth i Rodfa’rBrenin Edward VII
  • mynediad i'r ŵyl bwyd, diod a cherddoriaeth trwy’r fynedfa i ddeiliaid tocynnau’r Seremonïau Graddio
  • cau'r Prif Adeilad i raddedigion a'u gwesteion (dim mynediad i'r cwrt na thu mewn i'r adeilad). Mae’r Prif Adeilad yn parhau i fod ar agor i staff a myfyrwyr y bydd angen iddynt ddangos cardiau adnabod i gael mynediad i’r adeilad, ac i fynd i mewn i’r adeilad trwy Blas y Parc
  • cynyddu diogelwch, gyda mannau gwirio tocynnau a bagiau ym mhob lleoliad graddio

Mae’r amgylchiadau hyn yn ddyrys, yn emosiynol ac yn gymhleth, felly dyma ofyn i chi a'ch gwesteion ymuno â ni yn ysbryd rhyddid barn cyfreithlon a thrin ein gilydd â pharch.

7. Trefnwch sesiwn ffotograffiaeth stiwdio

Os byddwch chi wedi trefnu sesiwn gyda Tempest Photography, dewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr a dilyn y cyfarwyddiadau a nodir yn eich archeb.

Os nad ydych chi eisoes wedi trefnu hyn, siaradwch â’r staff ar y diwrnod.

8. Caniatâd ffotograffiaeth a fideograffiaeth

Byddwn ni’n rhannu newyddion am y seremonïau graddio ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos ac yn croesawu fideos o’ch diwrnod #GraddCdydd.

Byddwn ni’n tynnu lluniau ac yn ffilmio yn ystod y seremonïau graddio, a hynny at ddibenion hyrwyddo ac archifo. Mae’n debygol y byddwn ni’n cyhoeddi’r lluniau a’r fideos ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Drwy gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn, mae’r graddedigion, y gwesteion a’r staff yn rhoi eu cydsyniad inni wneud hynny.

Fodd bynnag, os yw'n well gennych chi beidio â chael tynnu eich llun neu gael eich ffilmio, rhowch wybod i’r ffotograffydd neu’r fideograffydd ar y pryd.

9. Teithio, parcio a hygyrchedd

Mae cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol yng Nghaerdydd, ac mae’n ddinas hawdd ei chyrraedd. Er mwyn eich helpu i gynllunio eich diwrnod, darllenwch ein cyngor a’n gwybodaeth am deithio, ymweld â Chaerdydd, parcio, llety a hygyrchedd.

10. Dathlwch yn Undeb y Myfyrwyr

Er mwyn eich helpu i nodi’r achlysur, mae gan siop Caru Caerdydd Undeb y Myfyrwyr ddillad ac anrhegion graddio, gan gynnwys hwdi Graddedigion 2024.

Byddan nhw hefyd yn ffrydio pob seremoni yn y Balconi ar yr 2il lawr, ac yn cynnal YOLO y Graddedigion