Ewch i’r prif gynnwys

Archebwch ffotograffi

Diweddarwyd: 23/05/2024 09:36

Ar ôl y diwrnod mawr, gallwch ail-fyw profiad eich Graddio gyda lluniau proffesiynol.

Bydd ein partner Tempest Photography yn darparu ffotograffiaeth stiwdio swyddogol i raddedigion a'u gwesteion yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr (lloriau tri a phedwar).

Rydym yn eich cynghori'n gryf i archebu'ch ffotograffiaeth cyn i chi Raddio. Bydd hyn yn gwarantu y bydd eich llun yn cael ei dynnu a bydd yn lleihau amseroedd ciw.

Ewch i wefan Tempest Photography i weld opsiynau a phrisiau cynnyrch, bydd angen i chi ddewis opsiwn Heb gael eich seremoni raddio eto? a nodwch Brifysgol Caerdydd a'ch dyddiad graddio i weld y pecynnau sydd ar gael.

Bydd archebion yn cau am 17:00 ddydd Gwener, 12 Gorffennaf.

Archebwch eich sesiwn

Disgwyliwn y bydd sesiynau ffotograffiaeth ar gael i'w harchebu ar ddiwrnod eich seremoni er bod amseroedd aros yn debygol o fod yn hirach.

Gallwch weld rhagolwg a phrynu ffotograffau ar ôl Graddio ar wefan Tempest Photography.

Ffotograffiaeth, pethau i'w wneud a pheidio â'i wneud

Ni all ein ffotograffwyr reoli'r tywydd, eich dewis o esgidiau, colledion damweiniol, neu ddiwrnod gwallt gwael, ond gallwn roi rhywfaint o bethau i'w gwneud a pheth i'w hosgoi a fydd yn sicrhau eich bod yn cael y profiad stiwdio mwyaf llwyddiannus.

Gwnewch:

  • archebwch eich slot amser stiwdio ar gyfer yn fuan ar ôl i chi gasglu eich gŵn a chyn i chi ddechrau eich dathliadau
  • cyrraedd ar amser
  • trefnwch i bawb sy'n cael tynnu eu llun gyrraedd gyda'i gilydd
  • sicrhewch fod eich gwallt a'ch colur fel y dymunwch cyn cyrraedd
  • bod yn ystyriol o raddedigion, gwesteion a staff eraill a'u trin â pharch.

Peidiwch â:

  • dod â mwy na saith o bobl i dynnu llun; mae gan y stiwdio uchafswm o saith
  • poeni am gynau llithro; bydd staff yn gwirio'ch gŵn yn y stiwdio
  • poeni am esgidiau, nid yw traed yn ymddangos mewn lluniau
  • achosi oedi diangen i chi neu i eraill.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth neu gyngor ar archebu, cysylltwch â Tempest Photography