Gweithredu diwydiannol yn ystod y digwyddiadau graddio
Diweddarwyd ddiwethaf: 28/08/2024 12:23
Gwybodaeth am weithredu diwydiannol a’r seremonïau eleni.
Yn ddiweddar cafodd Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) fandad i weithredu’n ddiwydiannol. Mae UCU bellach wedi cadarnhau y bydd y gweithredu diwydiannol yn cynnwys boicot marcio ac asesu (MAB) fydd yn dechrau ar 6 Mai, a’r diwrnodau streicio fydd 1 Mai, 6 Mai, 9 Mehefin ac 23-27 Mehefin.
Bydd y seremonïau graddio yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf yn ôl y disgwyl. Os ydych chi wedi cael eich gwahoddiad, rhowch wybod inni a hoffech chi ddod i’r seremoni, a daliwch ati i baratoi ar gyfer y diwrnod.
Ni fydd pob aelod o staff yn ymgymryd â gweithredu diwydiannol, felly bydd y tarfu’n amrywio ar draws ysgolion a rhaglenni. Byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i leihau'r effaith ar ein myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Byrddau Arholi a sicrhau bod pob gradd yn cael ei dyfarnu ar yr un pryd â chynnal safonau academaidd.
Mynd i’ch Seremoni Raddio
Nid yw seremonïau graddio yn breinio eich gradd. Yn hytrach, digwyddiadau dathlu ydyn nhw sy’n nodi cwblhau eich cwrs. Cewch fynd i seremoni raddio os ydych chi’n disgwyl cwblhau eich gradd yn llwyddiannus, hyd yn oed os nad yw dyfarnu eich gradd neu ei dosbarth (1af, 2:1 ac ati) wedi'i gadarnhau hyd yn hyn o ganlyniad i'r boicot marcio ac asesu.
Bellach, anfonwyd y cylch cyntaf o wahoddiadau graddio. Cysylltwch â ni os na fyddwch chi’n derbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Ebrill.
Gohirio Graddio
Os byddai'n well gennych chi aros nes bod gennych chi’r trawsgrifiad cyflawn i raddio, cewch ohirio eich seremoni raddio tan y flwyddyn nesaf. Os hoffech chi ohirio, e-bostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk gan roi'ch enw llawn a'ch rhif myfyriwr.
Canslo eich tocynnau
Os ydych chi wedi trefnu tocynnau graddio, y wisg academaidd neu sesiwn tynnu lluniau ond yn methu â graddio canslwch y rhain yma.
Derbyn eich tystysgrif a’ch Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Yn unol â blynyddoedd blaenorol, ni fydd graddedigion yn derbyn eu tystysgrifau gradd yn ystod eu seremonïau graddio. Darperir tystysgrif electronig ac Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR) ym mhorth Verify a chaiff tystysgrif copi caled ei phostio at raddedigion cyn gynted â phosibl. Dyma ragor am dderbyn eich tystysgrif a HEAR ar fewnrwyd y myfyrwyr.
Gweithredu diwydiannol
Os bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael. Cysylltwch â Thîm Cyswllt Myfyrwyr neu'r Ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.
Gall myfyrwyr cyfredol gyrchu mewnrwyd y myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol.