Nwyddau Graddio
Diweddarwyd: 25/03/2025 15:03
Gall ein cyflenwyr dewisol eich helpu i greu atgofion fydd yn para am oes.
Nwyddau Caru Caerdydd
Mae siop ar-lein Caru Caerdydd Undeb y Myfyrwyr yn gwerthu nwyddau brand anhygoel i'ch helpu i gofio eich amser yng Nghaerdydd. Mynnwch dedi bêr graddio, llu o anrhegion a dillad 'Graddedigion...'. Neu ewch i siop Caru Caerdydd ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr.
Dillad Graddio - Graddedigion 2025 (yn dod yn fuan)
Mae Undeb y Myfyrwyr yn lansio cynllun hwdis Graddio newydd sbon ar gyfer graddedigion '25. Mae'n cynnwys logo brodiog hirhoedlog ac opsiwn i'w bersonoli gyda'ch enw a/neu ddosbarth.
Yn newydd eleni mae gennym ystod o fflisiau sip unigryw sydd ond ar gael i’w prynu ar-lein. Dathlwch eich cyflawniadau drwy brynu’r ychwanegiad arbennig yma at y casgliad graddio.
Archebwch eich hwdi personol ymlaen llaw rhwng 11 Ebrill a 6 Mehefin a bydd yn cael ei bersonoli yn rhad am ddim.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei gynnig yn ystod wythnos y Graddio.
Katherine Jones
Artist a Phensaer yn ne Cymru yw Katherine Jones. Astudiodd Katherine bensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd rhwng 2008 a 2015. Enillodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf BSc yn 2011, Meistr Pensaernïaeth yn 2013 a Diploma Proffesiynol yn 2015.
Byddwn yn dal awyrgylch #GraddCdydd ledled y campws a'r ddinas ac yn rhannu lluniau y tu ôl i'r llenni mewn cyhoeddiadau, a thrwy lygaid myfyrwyr. Ychwanegwch #GraddCdydd i'ch cyhoeddiadau a byddwn yn rhannu ein ffefrynnau. Cewch hyd i ni ar Instagram, Facebook a Twitter.