Seremonïau Busnes, y Gwyddorau Gofal Iechyd, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Diweddarwyd: 07/03/2025 14:54
Mae dwy seremoni yn cael eu cynnal ar gyfer ein hysgolion mwy: Busnes, y Gwyddorau Gofal Iechyd, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Gweler fanylion y cyrsiau a fydd yn cael eu dathlu ym mhob seremoni isod.
Busnes
Seremoni 1, Dydd Iau 17 Gorffennaf am 09:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 1:
- Meistr Gweithredol mewn Gweinyddu Busnes
- Meistr mewn Gweinyddu Busnes
- Meistr mewn Gweinyddu Busnes â'r Cyfryngau (MBA)
- MBA gyda Deallusrwydd Artiffisial
- MSc Rheoli Busnes
- MSc Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth
- MSc Cynllunio Gofal Iechyd
- MSc Rheoli Adnoddau Dynol
- MSc Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol
- MSc Rheoli Rhyngwladol
- MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau
- MSc Polisi Morol a Rheoli Llongau
- MSc Marchnata
- MSc Arweinyddiaeth Gyhoeddus
- MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (CARBS PhD)
- MSc Marchnata Strategol
- MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi’n Gynaliadwy
- Diploma Ôl-raddedig Cynllunio Gofal Iechyd
- Doethur mewn Athroniaeth.
Seremoni 2, Dydd Iau 17 Gorffennaf am 15:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 2:
- BSc Cyfrifeg (Pawb)
- BSc Cyfrifeg a Chyllid (Pawb)
- BSc Bancio a Chyllid gydag Iaith Ewropeaidd
- BSc Rheoli Busnes (Pawb)
- BSc Economeg Busnes gydag Iaith Ewropeaidd
- BSc Economeg gydag Iaith Ewropeaidd (Pawb)
- BScEcon Bancio a Chyllid (Pawb)
- BScEcon Economeg Busnes (Pawb)
- BScEcon Economeg (Pawb)
- BScEcon Economeg a Chyllid (Pawb)
- BScEcon Economeg ac Astudiaethau Rheoli
- MRes Economeg Uwch (Llwybr PhD)
- MSc Cyfrifeg a Chyllid
- MSc Economeg
- MSc Economeg (Llwybr PhD)
- MSc Cyllid
- MSc Economeg Ariannol
- MSc Economeg Ryngwladol, Bancio a Chyllid.
Gofal Iechyd
Seremoni 1, Dydd Llun 14 Gorffennaf am 09:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 1:
- BSc Radiograffeg a Delweddu Diagnostig
- BSc Therapi Galwedigaethol
- BSc Ffisiotherapi
- BSc Radiotherapi ac Oncoleg
- Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cynorthwyo Ymarfer Radiograffig
- MSc Galwedigaeth ac Iechyd
- MSc Therapi Galwedigaethol
- MSc Ffisiotherapi
- MSc Therapi Galwedigaethol Cyn-gofrestru
- MSc Ffisiotherapi Cyn-cofrestru
- MSc Radiograffeg
- MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer
- Tystysgrif Ôl-raddedig Adrodd Radiograffig
- PhD Doethur mewn Athroniaeth (bydd myfyrwyr sy'n derbyn doethuriaeth yn cael gwybod i ba seremoni y mae angen iddyn nhw fynd iddi)
- Doethur mewn Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (bydd myfyrwyr sy'n derbyn doethuriaeth yn cael gwybod i ba seremoni y mae angen iddyn nhw fynd iddi)
Seremoni 2, Dydd Llun 14 Gorffennaf am 15:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 2:
- Baglor mewn Bydwreigiaeth
- Baglor mewn Nyrsio
- BSc Ymarfer Adrannau Llawdriniaeth
- MSc a Thystysgrif Ôl-raddedig Ymarfer Clinigol Uwch
- MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch
- MSc Ymarfer Uwch
- MSc Addysg i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
- Tystysgrif Ôl-raddedig Rhagnodi Annibynnol/Atodol
- Diploma Ôl-raddedig Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
- Diploma Ôl-raddedig ac MSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol
- PhD Doethur mewn Athroniaeth (bydd myfyrwyr sy'n derbyn doethuriaeth yn cael gwybod i ba seremoni y mae angen iddyn nhw fynd iddi)
- Doethur mewn Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (bydd myfyrwyr sy'n derbyn doethuriaeth yn cael gwybod i ba seremoni y mae angen iddyn nhw fynd iddi)
Darllen y Llw Hipocrataidd
Hen lw o safonau moesegol sy’n gysylltiedig â’r meddyg Groegaidd hynafol Hippocrates yw’r Llw Hipocrataidd. Mae'n ganllaw i’r ymddygiad a ddisgwylir gan ymarferwyr gofal iechyd wrth ofalu am eu cleifion.
Mae'r Llw yn parhau i gael ei ddefnyddio'n helaeth mewn seremonïau graddio, ac mae'n gwbl briodol ac yn berthnasol i raddedigion ein pynciau gofal iechyd. Bydd y Llw yn cael ei ddarllen i'r gynulleidfa ar ddiwedd eich seremoni.
Yn ystod eich seremoni, bydd gofyn i chi sefyll pan fyddwch chi’n clywed y cyflwynydd yn dweud:
"A all yr holl fyfyrwyr hynny sydd wedi astudio dyfarniad mewn unrhyw agwedd ar ofal iechyd, sefyll ar gyfer darllen y Llw."
“Byddaf yn awr yn datgan y Llw, yn gyntaf yn y Gymraeg ac wedyn yn y Saesneg, cyn gofyn i chi gytuno â thelerau’r Llw.”
Yna bydd y Llw yn cael ei ddarllen yn y ddwy iaith:
"Rwy'n addo y byddaf yn gofalu am fy nghleifion uwchben popeth arall. Byddaf yn ystyriol o'm holl gleifion a byddaf yn ymdrechu i gyfathrebu'n effeithiol â nhw. Byddaf yn parchu urddas ac annibyniaeth fy nghleientiaid, a'u hawl i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau am eu gofal. Byddaf bob amser yn onest ac yn ddibynadwy, yn parchu ac yn diogelu gwybodaeth gyfrinachol. Ni fyddaf yn gwahaniaethau yn erbyn cleifion a’u gofal oherwydd fy nghredoau personol. Gan gydnabod terfynau fy nghymhwysedd, byddaf yn diweddaru fy ngwybodaeth a'm sgiliau proffesiynol. Os ydw i o’r farn efallai nad ydw i neu gydweithiwr yn ffit i ymarfer, byddaf yn gweithredu'n gyflym i amddiffyn cleifion rhag risg. Ni fyddaf yn cam-drin fy rôl broffesiynol a byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr i wasanaethu cleifion yn y ffordd orau. Ni fyddaf byth yn gwahaniaethu yn annheg yn erbyn cleifion neu gydweithwyr a byddaf bob amser yn barod i gyfiawnhau fy ngweithredoedd iddynt. Rwy'n gwneud yr addewid hwn yn ddifrifol, o’m gwirfodd ac ar fy llw."
Bydd angen i chi gytuno ar ddiwedd y darlleniadau drwy ddweud:
- 'I do', os yn ymateb yn Saesneg
- 'Ydwyf', os yn ymateb yn Gymraeg.
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Seremoni 1, Dydd Mercher 16 Gorffennaf am 09:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 1:
- BA Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth
- BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol
- BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth
- BScEcon Gwleidyddiaeth
- BScEcon Gwleidyddiaeth ac Economeg
- BScEcon Gwleidyddiaeth a Hanes Modern
- Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL)
- LLM Y Gyfraith
- Cwrs Hyfforddiant y Bar LLM
- LLM Cyfraith Eglwysig
- LLM Cyfraith Hawliau Dynol
- LLM Cyfraith Eiddo Deallusol
- LLM Cyfraith Masnach Gydwladol
- LLM Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol
- LLM Ymarfer Cyfreithiol
- LLM Cyfraith Llongau
- MScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol
- MSc Econ Gwleidyddiaeth a Pholisïau Cyhoeddus
- MScEcon Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru
- Tystysgrif Ôl-raddedig Hyfforddiant Proffesiynol y Bar
- Tystysgrif Ôl-raddedig Ymarfer Cyfreithiol
- Doethur mewn Athroniaeth (Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol)
- Doethur mewn Athroniaeth (Y Gyfraith)
Seremoni 2, Dydd Mercher 16 Gorffennaf am 15:30
Os ydych chi’n astudio'r cyrsiau canlynol, cewch eich gwahodd i Seremoni 2:
- LLB Y Gyfraith
- LLB Y Gyfraith a Throseddeg
- LLB Y Gyfraith a Ffrangeg
- LLB Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- LLB Y Gyfraith a Chymdeithaseg
- LLB Y Gyfraith a’r Gymraeg.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych chi gwestiwn ynghylch y seremonïau.