Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer graddedigion

Direction sign in sunset

Mae Dyfodol Myfyrwyr yma i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer eich dyfodol a gwneud dewisiadau am yr hyn yr hoffech ei wneud wedi ichi gwblhau eich cwrs. Rydym yn cynnig adnoddau, gwasanaethau a digwyddiadau i'ch helpu chi i ddeall eich opsiynau, gwireddu'ch potensial a chael swydd, dewis astudiaethau pellach neu gyfleoedd eraill.

Cael profiad gwaith

Gall profiad gwaith fod yn ffordd berffaith i chi ddatblygu'r sgiliau hynny y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanyn nhw ar hyn o bryd, gan eich galluogi i fagu eich hyder a'ch rhwydwaith proffesiynol.

Porwch drwy’r cyfleoedd i gyd ar eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Gwrandewch ar ein podlediad Fy Nyfodol (My Future)

Mae’n myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf a’n harbenigwyr ym maes recriwtio yn rhannu eu profiadau i'ch helpu chi i lywio’ch gyrfa mewn byd ôl-bandemig. Mae arbenigwr gwadd yn siarad ym mhob pennod, a hynny ar bwnc penodol, ac mae pob pennod yn cael ei gyflwyno gan fyfyrwyr.

Gwrandewch ar Spotify neu Apple Podcasts.

Siarad â chynghorydd gyrfaoedd

Gallwch drafod eich opsiynau gyda'ch cynghorydd gyrfaoedd, Ysgol-benodol, a all eich helpu i greu eich cynllun gyrfa a nodi'ch camau nesaf. Trefnu apwyntiad.

Edrychwch ar yr hysbysfwrdd swyddi

Defnyddiwch ein Hysbysfwrdd Swyddi i ddod o hyd i swyddi ar gyfer graddedigion, interniaethau, lleoliadau gwirfoddoli a gwaith mewn dros 5,000 o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn ystod eang o sectorau gyda chyflogwyr sy’n chwilio am fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Gallwch Sefydlu proffil gyrfaoedd er mwyn creu chwiliadau a hysbysiadau sy’n benodol i chi.

Gallwch hefyd chwilio am swyddi tramor ar GoinGlobal.

Rhwydweithio gyda chyn-fyfyrwyr

Gallwch gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill, datblygu eich rhwydwaith proffesiynol, dod o hyd i gyfleoedd, a manteisio ar gefnogaeth arbennig trwy ein platfform rhwydweithio unigryw Cysylltiad Caerdydd. Mewn ychydig gliciau yn unig, gallwch ddod o hyd i fentor o'ch diwydiant, gofyn cwestiynau a chyflwyno eich hun.

Cefnogaeth sydd ar gael eisoes

Mae'r gefnogaeth a nodir uchod yn ychwanegol at: