Dr Tiago Alves
Yr Uwch-ddarlithydd Tiago Alves yn trafod gwaith rhyngwladol Labordy Seismig 3D Prifysgol Caerdydd a pha mor dda yw Caerdydd fel lleoliad ar gyfer teithio dramor.
"Mae seismeg 3D yn dechneg a ddefnyddir i geisio dod o hyd i adnoddau o dan wely’r môr.
Mae Tiago’n rhedeg labordy ymchwil allweddol ar ddaeareg ac ymchwil petrolewm ar ffiniau cyfandirol. Hoffai ddatblygu ffyrdd o chwilio am olew a nwy mewn modd carbon niwtral.
Mae agweddau rhyngwladol yn bwysig iawn i Tiago gan fod y mwyafrif o’i fyfyrwyr yn rhai rhyngwladol a’r rhan fwyaf o’i waith yn cael ei wneud dramor.
Mae cysylltu â chwmnïau, academyddion a sefydliadau tramor yn rhan bwysig iawn o waith Tiago. Mae hyn yn dod â myfyrwyr a phrosiectau i Gaerdydd ac yn gyfle i rannu gwybodaeth.
Mae Tiago’n cydweithio â chydweithwyr o Brydain, Canada, Tsieina, Siapan ac Awstralia, felly mae ei waith yn gwbl ryngwladol.
Un o’r pethau sy’n ei synnu fwyaf am Gaerdydd yw’r berthynas agos rhwng y staff addysgu a myfyrwyr. Maen nhw’n tyfu gyda’i gilydd drwy gyrsiau BSc ac mae llawer o fyfyrwyr yn aros i astudio MSc neu PhD.
Mae Tiago o’r farn fod Caerdydd yn ddinas ddymunol a gwyrdd iawn. Mae’n fach heb fod yn rhy fach. Mae’n ddefnyddiol bod tua dwy awr o faes awyr Heathrow ac mae hyn hefyd yn gwneud Caerdydd yn lle cosmopolitan iawn."