Dr Monika Hennemann
Dr Monika Hennemann, un o sylfaenwyr y Rhwydwaith Staff Rhyngwladol, yn sgwrsio am y gefnogaeth mae Prifysgol Caerdydd yn ei rhoi i aelodau rhyngwladol newydd o staff ac yn egluro beth mae'n ei hoffi am Gaerdydd.
Mae’r Rhwydwaith Staff Rhyngwladol yn fenter sy’n cael ei rhedeg gan staff. Mae yna lawlyfr i staff rhyngwladol a chynllun mentora gwirfoddol ar gyfer staff rhyngwladol newydd.
Mae Monika’n teimlo bod Prifysgol Caerdydd a Chaerdydd fel dinas yn groesawgar iawn. Mae yna lawer o gyfleoedd i gydweithio ag ymarferwyr o’r Opera yn ogystal ag arbenigwyr mewn cerddoriaeth, cyfieithu ac ieithoedd.
Mae Caerdydd yn ddinas wych i fyw ynddi. Mae digon o bethau diddorol yn digwydd yma ac mae’r ddinas yn agos i gefn gwlad. Mae Monika’n hoffi gallu beicio neu gerdded pobman, sydd wedi gwella ei hansawdd bywyd yn fawr.
Yr hyn sy’n ei synnu fwyaf am Brifysgol Caerdydd yw cymaint mae’r lle wedi newid yn ei phedair blynedd a hanner gyda’r sefydliad, a dylanwad rhyngwladol cynyddol y brifysgol.
Mae’n teimlo bod hyn wedi agor llawer o ddrysau iddi a chreu llawer o gyfleoedd. Mae Monika wrth ei bodd â’r awyrgylch fywiog, ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd.