Dr M Sankar
Y Cymrawd Ymchwil, Dr M Sankar, yn siarad am waith Sefydliad Catalysis Prifysgol Caerdydd sy'n arwain y byd gan ddisgrifio beth mae'n ei garu am fyw a gweithio yng Nghaerdydd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o sefydliadau blaenllaw’r byd o ran ymchwil catalysis heterogenaidd.
Mae catalydd yn sylwedd a all gyflymu unrhyw adwaith cemegol.
Mae Sankar yn datblygu catalyddion sy’n helpu i sicrhau dyfodol gwyrdd a chynaliadwy, mynediad i ddŵr glân ac ynni adnewyddadwy. Yn ei farn ef, mae’n amlwg y dylai’r ymchwil i’r heriau hyn fod yn rhyngwladol ei natur.
Mae Sankar yn cydweithio â llawer o wledydd gwahanol, ac mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi hyn.
Mae’r Brifysgol yn lle cyfeillgar ac agored i weithio ym marn Sankar, ac mae ei gydweithwyr, yn arbennig ei uwch gydweithwyr, bob amser yn barod i’w helpu gyda’i ddatblygiad gyrfaol. Nid yw’n teimlo fel bod yna hierarchaeth - maen nhw eisiau helpu’r staff i lwyddo.
Byddai Sankar yn argymell y Brifysgol fel lle gwych i weithio a Chaerdydd fel lle gwych i fyw. Mae rhannau mwyaf cyffrous y DU o fewn 20 munud i Gaerdydd - mae yna draethau prydferth ac mae’n lle hyfryd i fyw. Mae Rhaglen Ymchwilwyr Caerdydd yn cefnogi datblygiad gyrfaol drwy hyfforddiant, mentora, cyllid a chyngor.