Dr Mohammad Al-Amri
Y Cydymaith Ymchwil Dr Mohammad Al-Amri yn sôn am ei ymchwil i ddefnyddio gemau realiti rhithwir i helpu cleifion i adsefydlu symudiad. Mae'n datgelu cymaint mae ei deulu wrth eu bodd yn byw yng Nghaerdydd.
Mae Realiti Rhithwir yn ffordd dda iawn o helpu cleifion i ddeall eu cyflwr clinigol. Mae hefyd yn helpu clinigwyr i ddadansoddi cleifion a rhoi adborth iddynt.
Mae’n eithaf diddorol cyfuno realiti rhithwir â dadansoddiadau symudiad cyn dangos eu symudiadau i’r cleifion ar sgrin amser real neu mewn cyd-destun gêm. Mae Mohammad yn gweithio mewn labordy gwych, wedi’i ariannu gan Arthritis Research UK, yn helpu cleifion â chyflyrau ar y ben-glin i wella eu gweithgareddau swyddogaethol. Mae bellach yn datblygu technoleg symudol i’w defnyddio mewn arfer clinigol, yn seiliedig ar ei 10 mlynedd o ymchwil yn y labordy. Mae hyn yn gyffrous iawn a bydd yn helpu’r GIG i gynnig triniaeth well i gleifion.
Ar ôl teithio o’r Dwyrain Canol i Asia i Ewrop, mae Mohammad yn falch ei fod wedi gallu
setlo’n dda yng Nghaerdydd fel aelod rhyngwladol o staff. Mae ei deulu’n hoffi’r ddinas
hefyd, sydd wedi ei helpu i ddatblygu yn ei waith.