Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil byd-eang

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, canfuwyd bod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn fyd-eang, gan ein gwneud yn 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil.

Mae ein hymchwil gydweithredol gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau byd-eang o ddifrif.

Rydym yn denu'r academyddion ac ymchwilwyr o'r radd flaenaf o bob cwr o'r byd, gan wella'r profiad dysgu i fyfyrwyr a dod â phersbectif byd-eang i'n hymchwil.

Newyddion diweddaraf

Delwedd o'r Cosmology Atacama Telesgop

Mae arsylwadau telesgop yn datgelu lluniau o fabandod y bydysawd yn oriau oed, medd gwyddonwyr

18 Mawrth 2025

Oherwydd y delweddau manylaf a gafwydn hyd yma, roedd y tîm yn gallu profi model safonol cosmoleg yn drwyadl

Golygfa o ddinas Karachi, Pacistan.

Dinasoedd byd-eang sydd fwyaf agored i newidiadau eithafol yn yr hinsawdd, yn ôl adroddiad newydd

12 Mawrth 2025

Dinasoedd byd-eang sydd fwyaf agored i newidiadau eithafol yn yr hinsawdd, yn ôl adroddiad newydd

Darlun o orbit y Ddaear o'r Haul.

Hwyrach bod modd rhagfynegi newidiadau naturiol yn hinsawdd y Ddaear, yn ôl astudiaeth

27 Chwefror 2025

Mae ymchwilwyr yn paru newidiadau bach yng nghylchdro’r Ddaear o amgylch yr Haul â newidiadau yn hinsawdd y blaned

Gweld yr holl newyddion ymchwil

Astudiaethau achos

Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau

Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.

Carmen Georges Bizet

Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd

Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen.

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

Kenyan court

Dylanwadu ar ddiwygio etholiadol yn Kenya

Roedd ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i wrthdroi canlyniad etholiad yn Kenya a gosododd gynsail ar gyfer gwell atebolrwydd, tegwch a datrysiad heddychlon i anghydfodau gwleidyddol lefel uchel.

Proboscis monkey

Diogelu rhywogaethau arbennig sydd mewn perygl yn Borneo

Arweiniodd arbenigedd ym maes mapio cynefinoedd at fesurau cadwraeth newydd ar gyfer y mwnci trwynol a rhywogaethau allweddol eraill

DNA

Datblygu Cronfa Ddata Mwtaniad Genynnau Dynol yn adnodd rhyngwladol ar gyfer adnabod clefydau yn well

Daeth y gronfa ddata yn ystorfa unedig ganolog ar gyfer amrywiadau genetig sy'n gysylltiedig â chlefydau celloedd llinach, gyda dros 9,000 o gofnodion newydd bob blwyddyn yn cael eu gwneud gan dîm Prifysgol Caerdydd.

Changing EU directives

Gwella effeithlonrwydd ynni gwasanaethau adeiladu yn y DU ac yn Ewrop

Mae ein hymchwilwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi treialu a gweithredu ffordd fwy effeithiol o fonitro adeiladau a’u gwasanaethau i nodi perfformiad ynni gwael, cynyddu effeithlonrwydd a lleihau allyriadau carbon. performance, increase efficiency and reduce carbon emissions.