Cyflymu datblygiad trefol cynaliadwy mewn Ewrop ôl-sosialaidd
Nododd Dr Oleg Golubchikov fylchau polisi y mae dinasoedd ôl-sosialaidd yn eu hwynebu, gan osod heriau ar agendâu polisi rhyngwladol a chenedlaethol a grymuso newid.
Hanes heriol
Mae'r heriau trefol y mae gwledydd Dwyrain Ewrop a gwledydd a oedd gynt yn rhan o’r Undeb Sofietaidd yn eu hwynebu yn niferus ac yn gymhleth.
Mae’r gwledydd hyn yn aml yn cynnwys economïau trefol bregus, anghydraddoldebau cymdeithasol a gofodol, diffygion sefydliadol mewn gweinyddiaeth a llywodraethu trefol, systemau hen ffasiwn ar gyfer rheoli a chynnal a chadw tai, a phroblemau o ran fforddiadwyedd tai ac aneffeithlonrwydd ynni.
Yn hanesyddol, fodd bynnag, nid oedd heriau trefol a thai dinasoedd Dwyrain Ewrop yn ddigon gweladwy yng nghytundebau rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, tra mewn strategaethau ar lefel genedlaethol mae materion trefol hefyd yn aml yn cael eu hesgeuluso wrth i bolisïau sy’n canolbwyntio ar ddiwygiadau economaidd a sectorau eraill gael blaenoriaeth.
Bu Dr Oleg Golubchikov yn cydweithio â’r Cenhedloedd Unedig er mwyn llunio canllawiau polisi ar sail tystiolaeth ar gyfer datblygu trefol cynaliadwy yn y rhanbarth. Roedd yr ymchwil hon yn sail i fecanweithiau’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer llunio a gweithredu polisïau, a rhoddodd mwy o bwyslais ar heriau gwledydd ôl-sosialaidd mewn agendâu rhyngwladol a chenedlaethol.
Ymchwil a gomisiynwyd gan y Cenhedloedd Unedig
Cafodd Dr Golubchikov ei gomisiynu gan ddau o gyrff y Cenhedloedd Unedig i gynhyrchu ymchwil wedi’i harwain gan bolisïau.
- UN-HABITAT (Rhaglen Anheddau Dynol y Cenhedloedd Unedig), corff y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo polisïau ar gyfer cynaliadwyedd trefol a thai
- UNECE (Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig), un o gomisiynau rhanbarthol y Cenhedloedd Unedig, sy’n gyfrifol am gydlynu cydweithredu a throsglwyddo polisïau ar draws ei 56 o aelod-wladwriaethau, gan ganolbwyntio ar ddarparu cymorth polisi a thechnegol i wledydd sydd ag economïau mewn cyfnod pontio
Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd y Cenhedloedd Unedig i nodi pwyntiau allweddol sydd dan bwysau, meysydd lle mae cyfyng-gyngor, a blaenoriaethau ar gyfer trefoli cynaliadwy mewn cenhedloedd a oedd gynt yn rhai sosialaidd drwy:
- roi sylfaen wybodaeth ar gyfer deall factorau allweddol sy’n arwain at newid a'r heriau y mae dinasoedd ôl-sosialaidd yn eu rhannu
- dangos diffyg polisïau trefol a thai sy’n gyson ac yn integredig
- ac eiriol dros fathau o ddatblygu a llywodraethu trefol sy’n fwy cynhwysol o safbwynt cymdeithasol a gofodol
Pwysleisiodd yr ymchwil hefyd pa mor bwysig yw mynd i’r afael â gwahaniaethau daearyddol a gwendidau sy’n seiliedig ar leoedd wrth ddatblygu polisïau ar gyfer trawsnewid mewn modd mwy cyfiawn.
Llywio fframweithiau polisi blaenllaw
Ar ôl nodi heriau allweddol sy'n wynebu dinasoedd mewn gwledydd a oedd gynt yn rhai sosialaidd, gweithiodd Prifysgol Caerdydd ar y cyd â'r Cenhedloedd Unedig i sicrhau camau gweithredu mewn perthynas â’r rhain yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Arweiniodd y gwaith hwn at gydnabod heriau penodol a wynebir gan wledydd Dwyrain Ewrop yn nogfen New Urban Agenda y Cenhedloedd Unedig (2016), sef fframwaith byd-eang pwysig o bolisïau a safonau sydd eu hangen i gyflawni datblygiad trefol cynaliadwy.
Roedd yr ymchwil hefyd yn llywio cynlluniau gweithredu cenedlaethol ar gyfer tai cynaliadwy yn Serbia, Moldofa, Tajikistan ac Armenia.
Llywiodd Dr Golubchikov hefyd fframweithiau polisi rhyngwladol eraill a gafodd eu cyfryngu gan y Cenhedloedd Unedig ynghylch dinasoedd cynaliadwy cynhwysol sy’n braf i fyw ynddynt, gan gynnwys fframwaith polisi cyntaf y Cenhedloedd Unedig ar ddinasoedd cynaliadwy sy’n ddeallus o ran pobl.
Mae ymchwil Dr Golubchikov wedi cael ei defnyddio mewn nifer o adroddiadau eraill y Cenhedloedd Unedig fel eu sylfaen wybodaeth allweddol. Mae'r adroddiadau hyn yn sail ar gyfer datblygu canllawiau technegol newydd ar gyfer gwledydd sydd ag economïau mewn cyfnod pontio.
Cyhoeddiadau dethol
- Golubchikov, O. and O'Sullivan, K. 2020. Energy periphery: uneven development and the precarious geographies of low-carbon transition. Energy and Buildings 211 109818. (10.1016/j.enbuild.2020.109818)
- Thornbush, M. and Golubchikov, O. 2020. Sustainable urbanism in digital transitions: From low carbon to smart sustainable cities.. SpringerBriefs in Geography Springer. (10.1007/978-3-030-25947-1)
- Golubchikov, O. 2017. From a sports mega-event to a regional mega-project: The Sochi Winter Olympics and the return of geography in state development priorities. International Journal of Sport Policy and Politics 9 (2), pp.237-255. (10.1080/19406940.2016.1272620)
- Evans, B. et al., 2016. HABITAT III regional report on housing and urban development for the UNECE region: Towards a city-focused, people-centred and integrated approach to the new urban agenda. United Nations Economic Commission for Europe (UNECE)
- Golubchikov, O. 2016. The urbanization of transition: ideology and the urban experience. Eurasian Geography and Economics 57 (4-5), pp.607-623. (10.1080/15387216.2016.1248461)
- Golubchikov, O. et al. 2015. Uneven urban resilience: the economic adjustment and polarization of Russia's cities. In: Lang, T. et al., Understanding Geographies of Polarization and Peripheralization: Perspectives from Central and Eastern Europe and Beyond. Basingstoke: Palgrave Macmillan. , pp.270-284. (10.1057/9781137415080_15)