Dull newydd o hybu arloesedd rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd
Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd i weithredu rhaglen Arbenigedd Craff yr UE, y rhaglen arloesedd rhanbarthol fwyaf yn y byd.
Mae polisïau rhanbarthol confensiynol wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddosbarthu gweithgarwch economaidd rhwng rhanbarthau. Fodd bynnag, helpodd gwaith yr Athro Kevin Morgan (ochr yn ochr â chyn-academydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Philip Cooke) ar bolisïau arloesedd rhanbarthol i symud y ffocws polisi i gynnwys arloesedd o fewn pob rhanbarth, dull newydd sydd â’r nod o hyrwyddo datblygiad cynhenid o fewn rhanbarthau gwan yn hytrach na dim ond denu cwmnïau sydd â’u pencadlys mewn rhanbarthau cryfach.
Pwysleisiodd yr ymchwil rôl rhwydweithiau rhyng-sefydliadol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a gwerth datblygiadol asedau anniriaethol fel ymddiriedaeth, llais, cyfalaf cymdeithasol, a llywodraethu.
Llywio canllawiau'r Comisiwn Ewropeaidd
Gan adeiladu ar waith ymchwil presennol tîm Prifysgol Caerdydd a’i mentrau cydweithredol hirsefydlog â’r Comisiwn Ewropeaidd ers y 1990au, arweiniodd yr Athro Morgan gonsortiwm ymchwil a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu a chefnogi’r Strategaeth Arbenigo Craff (S3, y cyfeirir ati hefyd fel RIS3).
Roedd Arbenigo Craff yn gynllun i gefnogi arloesedd a datblygu, yn enwedig mewn rhanbarthau llai datblygedig, fel rhan o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014-2020 yr UE. Ei nod oedd galluogi pob rhanbarth i ddod o hyd i’w fanteision cystadleuol ei hun a’u datblygu.
Casglodd yr ymchwil astudiaethau achos o dros ddwsin o ranbarthau i nodi problemau cyffredin ar gyfer arloesedd rhanbarthol ar draws yr holl ranbarthau. Canolbwyntiodd yr Athro Morgan ar lywodraethu prosiectau Arbenigo Craff. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
- arwyddocâd llywodraethu yn natblygiad a gweithrediad S3, gan nodi'r rolau a gymerir gan wahanol sefydliadau a sut maent yn rhyngweithio wrth ddylunio a gweithredu strategaethau ac wrth ddatblygu prosesau darganfod entrepreneuraidd
- yr heriau penodol a wynebir gan Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau sydd â systemau ymchwil ac arloesedd llai datblygedig i ddatblygu eu cynlluniau S3 a chynyddu eu heffaith
- y cysylltiad gwan rhwng S3 ac arloesedd cymdeithasol
- yr angen am well fetrigau, gwerthuso a monitro ar gyfer cynlluniau S3, gan gynnwys y potensial a gynigir gan weithdrefnau adolygu gan gymheiriaid datblygedig i’w hasesu
- nodi tagfeydd sefydliadol a systemig ar gyfer S3 ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol
- yr angen i daro cydbwysedd rhwng parhad a newydd-deb a rhwng dysgu rhyng-ranbarthol ac all-ranbarthol
Defnyddiwyd canfyddiadau’r Athro Morgan i fframio’r egwyddorion llywodraethu ar gyfer gweithredu’r rhaglen S3.
Diwygio a datblygu arloesedd rhanbarthol
O ganlyniad i brosiect Arbenigo Craff cafwyd y canfyddiadau empirig cyntaf yn Ewrop ar y profiad ymarferol o raglen S3 a'r heriau y mae rhanbarthau llai datblygedig yn eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys creu rhwydweithiau arloesedd rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, datblygu trefniadau llywodraethu cynhwysol, a chofleidio’r cysyniad o arloesedd cymdeithasol.
Defnyddiwyd y canfyddiadau hyn, yn enwedig y rhai ynghylch pwysigrwydd rhwydweithiau arloesedd a threfniadau llywodraethu cynhwysol ac iteraidd, gan y Comisiwn Ewropeaidd a llywodraethau Ewropeaidd rhanbarthol i lywio syniadau a chanllawiau polisi rhanbarthol.
Cafodd yr ymchwil ddylanwad ar ddull strategol newydd ar gyfer datblygu rhanbarthol mewn dau ranbarth penodol: Gwlad y Basg, drwy PCTI Euskadi 2020, a Chymru, drwy strategaeth Economi Sylfaenol (2019) Llywodraeth Cymru.
Mae ymchwil yr Athro Morgan hefyd wedi cael ei defnyddio i ddatblygu dyfodol polisi Ymchwil ac Arloesedd ar gyfer cyfnod nesaf y Fframwaith, 2021-2027.
Cyhoeddiadau dethol
- Marques, P. , Morgan, K. and Richardson, R. 2018. Social innovation in question: The theoretical and practical implications of a contested concept. Environment and Planning C: Politics and Space 36 (3), pp.496-512. (10.1177/2399654417717986)
- Marques, P. and Morgan, K. 2018. The heroic assumptions of smart specialisation: a sympathetic critique of regional innovation policy.. In: Isaksen, A. , Martin, R. and Trippl, M. eds. New Avenues for Regional Innovation Systems - Theoretical Advances , Empirical Cases and Policy Lessons. Springer. , pp.275-294.
- Morgan, K. 2017. Nurturing novelty: Regional innovation policy in the age of smart specialisation. Environment and Planning C: Government and Policy 35 (4), pp.569-583. (10.1177/0263774X16645106)
- Morgan, K. J. 2016. Collective entrepreneurship: the Basque model of innovation. European Planning Studies 24 (8), pp.1544-1560. (10.1080/09654313.2016.1151483)
- Oughton, C. , Landabaso, M. and Morgan, K. J. 2002. The Regional Innovation Paradox. Journal of Technology Transfer 27 (1), pp.97-110. (10.1023/A:1013104805703)
- Cooke, P. N. and Morgan, K. J. 1998. The associational economy: firms, regions and innovation. Oxford: Oxford University Press.