Daearyddiaeth Gymdeithasol a Diwylliannol
Y Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Gymdeithasol a Diwylliannol yw un o'r mwyaf yn y DU ac mae ar flaen y gad o ran agendâu rhyngwladol sy'n ymwneud â meddwl yn feirniadol - gan gynnwys damcaniaethau a geoddyniaethau ffeministaidd, Marcsaidd, ôl-drefedigaethol, 'mwy na dynol' ac 'anghynrychioliadol'.
Mae'r themâu trawsbynciol sy'n sail i'n gweithgareddau yn cynnwys daearyddiaeth anghydraddoldeb ac anghyfiawnder; cysylltiadau dynol-heb-fod-yn-anifeiliaid a bioddiogelwch; a symudedd, ymgorffori a hunaniaeth ddynol.
Mae ein hymchwil yn cwmpasu ystod eang o bynciau empirig, gan gynnwys bwydo ar y fron, boneddigeiddio, tai a digartrefedd, cyffuriau ac alcohol, seiclo, banciau bwyd, Masnach Deg, crefydd ac ysbrydolrwydd, syrffio, ffasiwn, seinweddau, hiwmor, dawns a garddio cymunedol.
Dylanwad ac effaith
Mae cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Ymddiriedolaeth Leverhulme, yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Wellcome wedi galluogi'r Grŵp i gynnal ymchwil (ar sail dulliau ethnograffig, arloesol a chyfranogol) sydd wedi cyflawni newidiadau cymdeithasol a pholisi cadarnhaol. Mae wedi sbarduno newid deddfwriaethol cadarnhaol ar ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr; helpu i ddiogelu hawliau lleiafrifoedd crefyddol ar draws awdurdodau cynllunio Lloegr; codi ymwybyddiaeth ymhlith llunwyr polisi'r DU am yr heriau sy'n wynebu mamau wrth geisio integreiddio bwydo ar y fron yn eu bywydau bob dydd; ac ail-gyfeirio ffyrdd o feddwl am yr 'hawl i'r ddinas' i grwpiau ymylol.
Arweinydd y grŵp
Cyd-gynullydd
Dr Geoff DeVerteuil
Senior Lecturer of Social Geography
- deverteuilg@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6089