Yr Amgylchedd
Mae Grŵp Ymchwil yr Amgylchedd yn glwstwr mawr o ddaearyddwyr dynol a chynllunwyr amgylcheddol sydd â diddordeb mewn deall a datrys heriau amgylcheddol byd-eang cyfoes.
Mae cwestiynau ymchwil allweddol sy'n cael sylw aelodau o'r Grŵp hwn yn croestorri nifer o feysydd gwahanol - o newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd i ynni adnewyddadwy a seilwaith gwyrdd, hyd at ddatblygu gwledig, bioddiogelwch a systemau bwyd cynaliadwy, ôl troed ecolegol, trawsnewidiadau ynni a llywodraethu amgylcheddol ôl-Brexit.
Gan ddefnyddio dulliau damcaniaethol arloesol o astudiaethau daearyddiaeth ddynol, gwyddoniaeth a thechnoleg ac ecoleg wleidyddol, mae aelodau o'r Grŵp hwn yn cyflawni ymchwil yn defnyddio ystod o ddulliau methodolegol, gan gynnwys dulliau ethnograffig, cyfranogol ac ôl troed ecolegol.
Dylanwad ac effaith
Gan adlewyrchu arwyddocâd byd-eang ymchwil amgylcheddol, mae gan y Grŵp gysylltiadau cryf ar draws y Brifysgol gydag ymchwilwyr cynaladwyedd yn ogystal â phartneriaethau â phrifysgolion eraill yn y DU a thramor. Mae aelodau'r grŵp yn cynnal ymchwil ar draws y byd, gan ganolbwyntio'n benodol ar Ewrop, Tsieina a Seland Newydd.
Cyllidir ymchwilwyr y Grŵp Amgylchedd gan y Comisiwn Ewropeaidd ac amrywiol sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ac maent wedi codi proffil polisïau bwyd trefol mewn trafodaethau yn y Cenhedloedd Unedig, dylanwadu ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd ar les anifeiliaid a rhoi cymorth i Bolisi Bwyd Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru a rheolaeth DEFRA o glefydau anifeiliaid a bioddiogelwch.
Dan arweiniad Dr Kirstie O’Neill, mae'r Grŵp yn cynnwys Dr Andrea Collins, Dr Richard Cowell, Dr Gareth Enticott, Flynn, Dr Kersty Hobson, Dr Antonio Ioris, yr Athro Terry Marsden, Dr Dalia Mattioni, yr Athro Paul Milbourne, Dr Hannah Pitt, Dr Ruth Potts, yr Athro Sonnino a Dr Rebecca Windemer yn ogystal â nifer o ymchwilwyr PhD.