Clwstwr mawr o gynllunwyr a daearyddwyr dynol yw Grŵp Ymchwil yr Amgylchedd sydd â diddordeb mewn deall a mynd i’r afael â gwahanol elfennau’r argyfwng amgylcheddol.
Mae aelodau o'r grŵp hwn yn ymgymryd â gwaith ymchwil mewn lleoliadau astudiaeth achos ledled y byd sy'n ymwneud â theori ffeministaidd, ôl-drefedigaethol, ôl-strwythurol a theori 'fwy na chynrychiadol'.
Mae'r grŵp ymchwil hwn yn arbenigo mewn gwneud ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol i ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â dinasoedd ac amgylcheddau trefol.
Mae'r grŵp hwn yn arbenigo mewn astudio newid cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd mewn trefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau, effaith y newidiadau hyn ar wahanol grwpiau cymdeithasol a lleoedd a'u perthynas â pholisi a chynllunio.