Ewch i’r prif gynnwys

Placements and professional experience

Rydym wedi ymrwymo'n fawr i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau academaidd a phroffesiynol.

Er y bydd ein cwricwlwm cyffrous sy’n cael ei arwain gan her a’n hamgylchedd dysgu cefnogol yn eich galluogi i ragori yn eich dewis bwnc, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd profiad proffesiynol.

I'ch helpu i gystadlu yn y farchnad swyddi fyd-eang, rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd ymarferol sydd wedi'u cynllunio i ehangu eich gorwelion, dyfnhau eich dealltwriaeth a gwella eich cyflogadwyedd.

Lleoliadau

Bydd cyfnod o brofiad gwaith proffesiynol yn cyfoethogi eich gradd, yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn rhoi cyfle i chi adeiladu eich rhwydwaith a’ch proffil proffesiynol.

Blynyddoedd lleoliad proffesiynol

Collaborative working.

Gallwch ddewis astudio Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio (BSc) neu Gynllunio a Datblygu Trefol (BSc) fel rhaglen bedair blynedd gyda blwyddyn o leoliad proffesiynol wedi'i hymgorffori. Mae hyn yn eich galluogi i ddatblygu profiad lefel gradd yn ystod eich gradd a rhoi hwb i'ch rhwydweithio.

We Rydym yn cyrchu'r lleoliadau hyn ar eich rhan ac yn gweithio gydag ystod eang o gwmnïau a sefydliadau cyffrous ac amrywiol. Gall y lleoliad hefyd gyfrannu at elfen profiad proffesiynol proses aelodaeth y Royal Town Planning Institute (RTPI) a Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS).

Mae cyrchfannau lleoliadau blaenorol wedi cynnwys: awdurdodau lleol ar draws De Cymru, De-orllewin a De-ddwyrain Lloegr (gan gynnwys bwrdeistrefi Llundain); asiantaethau'r llywodraeth fel Transport for London a'r Planning Inspectorate;; a chwmnïau preifat fel Asbri Planning, Redrow Homes and Jones Lang LaSalle.

Profiad gwaith o fewn y rhaglen

Rydym wedi ymgorffori cyfle lleoli yn y rhaglenni tair blynedd Daearyddiaeth Ddynol (BSc), Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio (BSc) a Chynllunio a Datblygu Trefol (BSc). Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i'ch lleoliad ac yn rhoi'r cyfle i chi ymgysylltu â thîm Profiad Gwaith y Brifysgol.

Datblygu eich sgiliau proffesiynol

Y tu allan i'r sgiliau dadansoddol a chyflogadwyedd trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu trwy eich astudiaethau, rydym hefyd yn eich annog i gymryd rhan yng Nghynllun Gwobrau Caerdydd. Mae hon yn rhaglen gyflogadwyedd strwythuredig sy’n cael ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr, sy’n eich galluogi i ennill profiad a myfyrio ar eich sgiliau a’ch priodoleddau wrth baratoi ar gyfer y gweithle.

Rydym hefyd yn awgrymu archwilio Cynllun Llysgenhadon y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, sy’n recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi myfyrwyr sy’n ddaearyddwyr i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer daearyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae hyn yn ffordd o ddatblygu sgiliau newydd ac adeiladu eich rhwydwaith o fewn y ddisgyblaeth daearyddiaeth.

Amlygiad rhyngwladol

Rydym yn byw mewn byd sy'n gynyddol rhyng-gysylltiedig a byd-eang ac rydym yn rhoi pwys mawr ar ryngwladoli. Gall y profiad o astudio neu weithio mewn cyd-destun rhyngwladol fod yn hynod ddeniadol i gyflogwyr.

Yn ogystal â darparu deunyddiau astudiaethau achos o wahanol wledydd mewn darlithoedd a seminarau, mae Canolfan Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol yn cynnig cymorth ychwanegol petaech yn dymuno astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor tra bod y rhaglen Ieithoedd i Bawb arloesol yn caniatáu ichi astudio un o naw iaith yn ystod eich cyfnod.