Israddedig
Mae ein cyrsiau israddedig yn canolbwyntio ar effeithiau newidiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol.
Mae'r cyrsiau hyn wedi eu dylunio a'u cynnal gan dîm o academyddion blaenllaw ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio. Tra bod daearyddiaeth yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen i ddeall natur newid a'r effeithiau, mae cynllunio yn defnyddio'r ddealltwriaeth hon er mwyn gweithredu ac i sicrhau safon amgylcheddol well ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Rydym yn cynnig cyfle israddedig trochol i'n myfyrwyr sydd wedi anelu at ddatblygu nid yn unig dealltwriaeth fanwl o bynciau perthnasol, ond hefyd y gallu i gyfrannu at ystod eang o barthau polisi, yn cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, iechyd, nodweddion trefol, tai a digartrefedd, cyfiawnder bwyd, datblygiad y trydydd byd, ac atffurfio economaidd.
Mae ein cymarebau staff-myfyrwyr gwych yn sicrhau bod gennych y cyfle i gadw mewn cysylltiad agos a rheolaidd gyda'n haelodau o staff sydd wedi ymrwymo i rannu eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda chi.
Rhaglenni gradd
Prospectws
Cyllid
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sy'n cychwyn eu hastudiaethau. Mae dewisiadau ar gael beth bynnag bo'ch sefyllfa, fel cyllid i fyfyrwyr rhan-amser, cymorth i geiswyr lloches ac amrywiraeth o raglenni cymorth ariannol ychwanegol.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.