Gwobr Athena SWAN
Rydym yn falch o fod wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ar draws ein Hysgol.
Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth o gamau gweithredu gan gynnwys:
- cynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth o ran recriwtio staff, datblygiad gyrfaol a dyrchafiadau
- creu rhagor o gyfleoedd i staff gymryd rhan yn llywodraethiant a strwythurau'r Ysgol, a hynny i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- cynyddu amrywiaeth o ran recriwtio myfyrwyr, gwella cymuned a diwylliant myfyrwyr
- gwella diwylliant ein hymchwil a datblygiad gyrfaol ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
- gwella amgylchedd gwaith a diwylliant staff