Achrediad
Mae ein hymrwymiad i gynhyrchu gwybodaeth sy'n helpu i lunio llefydd, pobl a pholisïau wedi arwain at ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn cael eu hachredu gan ystod o gyrff allanol.
Mae'r achrediadau hyn yn cydnabod ac yn cymeradwyo ein dull unigryw, maent yn cryfhau ein perthynas hirsefydledig ymhellach â diwydiannau a chyrff proffesiynol, ac yn helpu ein graddedigion i ddangos ansawdd ac ymarferoldeb eu profiadau dysgu.
Partneriaid achredu
Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS)
Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda'r Sefydliad Daearyddwyr Prydeinig) yw corff proffesiynol mwyaf blaenllaw y DU ar gyfer daearyddiaeth. Mae achrediad yn gymeradwyaeth o ansawdd canlyniadau dysgu a chynnwys modiwl rhaglen achrededig, a hefyd o raddedigion y rhaglen honno. Rydym yn falch bod ein BSc Daearyddiaeth Ddynol yn un o'r graddau arbenigol cyntaf i gael achrediad RGS.
Y Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol (RTPI)
Yr RTPI yw'r Sefydliad Siartredig sy'n gyfrifol am achredu cyrsiau cynllunio o'r radd flaenaf a chynnal safonau yn y proffesiwn cynllunio. Mae ein rhaglenni BSc Daearyddiaeth a Chynllunio Dynol, a BSc Cynllunio a Datblygu Trefol wedi’u hachredu gan yr RTPI.
Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr sy'n graddio o'r rhaglenni hyn wedi cwblhau cam sylfaenol yn eu datblygiad proffesiynol i fod yn gynllunydd ardystiedig. Cwblheir ardystiad llawn drwy gyfuniad o brofiad gwaith proffesiynol (sy'n bosibl drwy lwybr pedair blynedd rhaglenni israddedig achrededig), a thrwy gwblhau gradd ôl-raddedig arbenigol achrededig yn llwyddiannus.
Ynghyd â'r graddau arbenigol, rydym ni hefyd yn cynnig dwy radd ôl-raddedig gynhwysfawr, MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol ac MSc Cynllunio a Datblygu rhyngwladol, sy'n bodloni gofynion addysg ar gyfer aelodaeth broffesiynol o'r RTPI i'r rhai nad oes ganddynt radd israddedig achrededig eisoes.
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
Mae'r RICS yn gorff proffesiynol a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n gweithio i hyrwyddo a gorfodi'r safonau proffesiynol uchaf mewn datblygu a rheoli tir, eiddo tirol, adeiladu, ac isadeiledd. Mae gan ein gradd BSc Cynllunio a Datblygu Trefol achrediad RICS, gan gydnabod ei berthnasedd nid yn unig i arferion diwydiannol cyfredol, ond hefyd ei allu i gynhyrchu graddedigion sy'n barod i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol allweddol drwy'r gweithle.
Ar ôl graddio, bydd unigolion yn gallu cwblhau Asesiad Cymhwysedd Proffesiynol RICS (drwy hyfforddiant strwythuredig mewn sefydliad proffesiynol) ac felly'n dod yn Syrfëwr Siartredig a gydnabyddir yn llawn.
Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT)
Achredir ein rhaglen MSc Cludiant a Chynllunio gan y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant. Cydnabyddir cyrsiau a gymeradwyodd Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT) gan y Pwyllgor Safonau Proffesiynol Cynllunio Trafnidiaeth (TPP) fel bodloni'r gofynion addysgol ar gyfer y cymhwyster Proffesiynol Cynllunio Trafnidiaeth.
Mae ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd ôl-raddedig a gymeradwyir gan CIHT yn gallu dilyn y llwybr safonol i'r cymhwyster TPP heb gyflwyno Portffolio o Wybodaeth Dechnegol. Ar ôl ennill profiad gwaith (tua phum mlynedd fel arfer), gallant symud ymlaen i baratoi a chyflwyno Portffolio o Dystiolaeth a mynd i Gyfweliad Adolygu Proffesiynol.
Ôl-raddedig
Ar lefel ôl-raddedig, mae'r cyrsiau canlynol wedi'u hachredu gan Sefydliadau Siartredig, gan alluogi graddedigion llwyddiannus i gwblhau'r gofynion addysg ar gyfer aelodaeth broffesiynol o'r sefydliadau hyn.
Graddau Meistr Cynhwysfawr
I'r rhai nad ydynt wedi cwblhau gradd israddedig RTPI achrededig.
- Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc) / RTPI a RICS
- Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol (MSc) / RTPI
Meistr Arbenigol
I'r rhai sydd wedi cwblhau gradd israddedig RTPI achrededig.
- Datblygu Trefol a Rhanbarthol (MSc) / RTPI
- Cynaladwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol (MSc) / RTPI
- Dylunio Trefol (MA) / RTPI
- Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc) / RTPI a CIHT
- Amgylchedd a Datblygu (MSc) / RTPI