Ewch i’r prif gynnwys

Croeso i Ŵyl 2024

Cyflwyniad i'r ŵyl gan Yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Yr Athro Claire Gorrara yn erbyn cefndir coch
Yr Athro Claire Gorrara

Croeso cynnes i bawb a fydd yn ymuno â ni i ddathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd 2024. Thema'r ŵyl eleni yw "ein bywydau digidol", gyda nifer o ddigwyddiadau yn archwilio'r maes hwn yn ogystal ag eraill yn cwmpasu ystod eang o bynciau'r gwyddorau cymdeithasol.

Ymunwch â ni wrth i ni rannu ymchwil a gwybodaeth effeithiol Prifysgol Caerdydd sy'n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cymunedol i gynnal digwyddiadau am ddim yn y prif ddinas ac ar draws Cymru i gefnogi'r ŵyl.

Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys gweithdy celf greadigol i oedolion ifanc i archwilio'r heriau i iechyd meddwl a achosir gan ein byd digidol, dosbarth meistr wrth ddatblygu proffil Instagram proffesiynol ar gyfer menywod yn y gymuned fusnes, sioeau teithiol yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe ar sut i gadw'n heini yn yr oes ddigidol, a sgyrsiau a gweithdai i rieni a gweithwyr addysg proffesiynol sy’n archwilio'r defnydd o ddata cenedlaethol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ar gyfer y sector creadigol, diwylliannol a threftadaeth gan gynnwys gweithdy i artistiaid proffesiynol ac ymarferwyr creadigol i arbrofi gyda deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ac archwilio ei effaith ar eu gwaith; a gweithdy yn archwilio ôl-fywydau digidol i helpu i lywio'r defnydd cyfrifol o dechnolegau dysgu dwfn sy'n dod i'r amlwg sy'n galluogi newid neu drin data digidol – megis atgyfodiad 'holograffig' o enwogion, ffigurau hanesyddol dwfn, a lluniau archif wedi'u hanimeiddio.

Cynhelir yr Ŵyl drwy gydol mis Hydref a Thachwedd er mwyn i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i ymuno â ni. Mae'r ŵyl yn gyfle cyffrous i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r ymchwil ragorol yn y gwyddorau cymdeithasol.

Mae pob un o’n digwyddiadau yn gofyn i ymchwilwyr a chymunedau ehangach ystyried beth yw gwneud gwahaniaeth: sef meddwl a bod yn eiriolwyr dros newid – yma yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol – a phennu agendâu.

Yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni, dyw ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol erioed wedi bod mor bwysig er gwellhad ein cymunedau lleol a byd-eang.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r ŵyl!

Yr Athro Claire Gorrara