Ewch i’r prif gynnwys

Uchafbwyntiau digwyddiad 2022

Festival of Social Science - 22 October to 13 November

Eich canllaw i ddigwyddiadau'r ŵyl sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd eleni - 22 Hydref - 13 Tachwedd.

Ein canllaw i'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan Gaerdydd. Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol eleni yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb a byddant yn arddangos y gwahanol ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd hon yn arddangosfa o ffotograffau o'r arddangosfa Inside Out gan ddau frawd o Tiger Bay, sef Anthony a Simon Campbell (meibion Betty Campbell). Daw'r ffotograffau o'r cyfnod rhwng y 1970au a’r 1990au, ac maent yn darlunio delweddau o Butetown a Tiger Bay.

Bydd yr arddangosfa'n darparu delweddau amrywiol o Gaerdydd a ‘Fy ardal leol’ o blith y rhai sydd fel arfer yn hygyrch, sy'n annog ymwelwyr i ystyried materion sy’n ymwneud â hunaniaeth a pherthyn.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Alyson Rees, Athro yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Richard Gale, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Ymbarél Caerdydd

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Mae'r arddangosfa hon ar agor drwy gydol yr Ŵyl gyfan, 9:00–17:00, dydd Llun i ddydd Gwener

15:00-17:00

Yn y sesiwn hon bydd Paul Whittaker OBE yn esbonio sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn gweithio, yn annog cyfranogwyr i feddwl am wir ystyr cân y tu hwnt i'r geiriau, sut y gellir ei chyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a sut i gynnwys elfennau di-eiriau o'r testun cerddorol a'r emosiwn sydd mewn cân mewn perfformiad wedi'i arwyddo. Yn y digwyddiad hwn, mae'r pwyslais ar gymryd rhan. Byddwn yn dechrau gydag ychydig o ganeuon syml iawn gydag arwyddion syml, ac yna'n adeiladu i rywbeth ychydig yn fwy cymhleth. Bydd arweinydd y gweithdy, Paul Whittaker, yn cymryd rhan mewn sesiwn bord gron a sesiwn holi ac ateb wedi’u cadeirio gan Angela Tarantini, y mae ei chymrodoriaeth Marie Curie yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a ddehonglir drwy iaith arwyddion.  Bydd cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau a rhyngweithio ag un o arloeswyr arwyddo caneuon yn y DU.

Dysgwch sgil newydd, dysgwch rywfaint o iaith arwyddion a, bwysicaf oll, mwynhewch (nid oes rhaid i chi ganu!)

Yn siaradwr diddorol, o fri, ym maes amrywiaeth, mae Paul Whittaker OBE, arweinydd y sesiwn, wedi treulio dros 30 mlynedd yn arwain gweithdai arwyddo caneuon, yn ogystal â bod yn gerddor ac yn berfformiwr Iaith Arwyddion Prydain, ar gyfer nifer o sioeau cerdd a chyngherddau ledled y DU. Mae hefyd yn aseswr ar gyfer cystadleuaeth arwyddo caneuon, a'i nod yw codi safon arwyddo caneuon yn Iaith Arwyddion Prydain.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Paul Whittaker OBE
  • Angela Tarantini, Cymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Monika Hennemann, Darllenydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch

15:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn yn nodi lansiad Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC yng Nghaerdydd eleni. Bydd yn gyfle i gael gwybod am holl ddigwyddiadau’r Ŵyl sydd ar y gweill, ac i brofi rhywfaint o’r ymchwil cyffrous ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd a gyda’n partneriaid cymunedol. Bydd bwyd, band byw a gweithgareddau hwyl sy'n dathlu’r gwyddorau cymdeithasol a'n hardal leol.

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch

12:30-14:30

Bydd y digwyddiad Zoom hwn yn canolbwyntio ar elfennau allweddol Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru. Yn dilyn trafodaeth banel agoriadol, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael eu gwahodd i drafod eu barn ar y pynciau uchod mewn ystafell grŵp bach, lle bydd hwylusydd yn gwneud cofnod o’r pynciau allweddol a drafodir. Bydd sesiwn lawn i ddilyn, lle bydd panelwyr yn ymateb i'r pwyntiau allweddol sy’n codi yn nhrafodaethau'r ystafelloedd grŵp bach - dyma fydd y prif ddigwyddiad. I gloi’r digwyddiad bydd sesiwn holi ac ateb a chasgliadau terfynol gan y Cadeirydd.

Bydd yn ystyried amcanion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a heriau allweddol sy’n ymwneud â’r Cynllun, a’r broses o ddatblygu polisïau ers yr ymgynghoriad cyntaf yn 2018 (Brexit a’n Tir). Nod y sesiwn yw cynhyrchu ymateb i'r ymgynghoriad cyfredol ar y Cynllun, yn seiliedig ar y drafodaeth a chyfraniadau'r rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdai.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Lydia Beaman, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Aimee Morse, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw
  • Theo Lenormand, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch

17:00-19:30

Dangosiad o'r rhaglen ddogfen "Guavira Time". Mae'r rhaglen ddogfen yn 40 munud o hyd, mewn Portiwgaleg a Guarani, gydag isdeitlau yn Sbaeneg ac yn Saesneg. Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn lleoliad ym Mhrifysgol Caerdydd a hefyd ar-lein drwy Zoom. Ar ôl y rhaglen ddogfen bydd cyfranogwyr o Frasil (gan gynnwys cyfranogwyr brodorol a rhai nad ydynt yn frodorol a gymerodd ran yn y rhaglen ddogfen) yn cynnig eu safbwyntiau personol a rhai eu cymuned. Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Mae'r rhaglen ddogfen yn trafod ac yn amlygu’r problemau sy’n gysylltiedig â’r trais a wynebwyd gan y Guarani-Kaiowa, sef y grŵp brodorol mwyaf ond un ym Mrasil, a’r grŵp y mae trais gwrth-frodorol yn effeithio arnynt fwyaf. Wrth wraidd y materion dadleuol hynny, mae’r cynnydd o ran echdynnu adnoddau a ffermio ar raddfa fawr yn ardaloedd y Guarani-Kaiowa. Mae'r rhaglen ddogfen yn gyfraniad 'mwy nag academaidd' pwysig o bartneriaeth barhaus rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Ffederal Dourados Mawr ers 2017, wedi'i hariannu gan ESRC, AHRC, yr Academi Brydeinig a Chronfa Newton.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Antonio Ioris, Darllenydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Tatiane Klein, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol São Paulo, Brasil

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bobl ifanc (17-25 oed) ac oedolion.

Cofrestrwch

18:00-20:30

Bydd y digwyddiad hwn yn seiliedig ar ddangosiad o ffilm Bhekizizwe, sef monodrama operatig gan Mkhululi Mabija (libretydd) a Robert Fokkens (cyfansoddwr), a gynhyrchwyd gan Opera'r Ddraig yn 2021. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa ryngweithiol fach, dangosiad o’r ffilm a thrafodaeth wedi'i hwyluso ynghylch themâu'r darn, gan gynnwys mewnfudo, amrywiaeth a hiliaeth, gyda phanel o siaradwyr yn cynnwys Tony Hendrickson a Themba Mvula.

Nod y digwyddiad yw archwilio themâu allweddol yr opera — mewnfudo, hiliaeth, amrywiaeth — a chyfrannu at ddealltwriaeth y cyhoedd a datblygu sgwrs gyhoeddus gadarnhaol ynghylch y materion hyn, yn enwedig yn sector y celfyddydau.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Robert Fokkens, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae hwn yn agored i bawb dros 16 oed.

Cofrestrwch

17:30-19:30

Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu canfyddiadau prosiect ar hawliau defnyddwyr ac achosion o ganslo hediadau o ganlyniad i COVID. Yn dilyn hynny bydd cyflwyniadau gan arbenigwyr hawliau defnyddwyr ar yr hyn y gall teithwyr ei wneud pan fydd eu hediadau'n cael eu canslo, a ffyrdd posibl o geisio iawndal. Gall cynrychiolwyr y cwmnïau awyrennau rannu sut maen nhw'n ymateb i'r argyfwng hwn a rhoi trosolwg o'r newidiadau diweddar i bolisïau ynghylch canslo hediadau.  Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’n panel.  Rhagwelir y bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth well o'u hawliau fel teithiwr awyr a sut mae'r cwmnïau awyrennau yn ymdrin â'r argyfwng, a fydd yn gwneud teithio yn brofiad llai brawychus felly.

O ganlyniad i bandemig COVID-19 cafodd hediadau eu canslo ar raddfa fawr, a hyd yn oed yn y cyfnod adfer hwn, mae teithwyr yn dal i wynebu aflonyddwch ac yn dioddef oherwydd hynny (e.e. siom, straen, costau nad oes modd eu hadennill, colli gwyliau).  Mae ein hymchwil, a ariennir gan LAWPL, yn datgelu bod ymwybyddiaeth isel ymhlith cwsmeriaid o'u hawliau fel defnyddwyr a'r ffyrdd o gael iawndal.  Canfuwyd bod defnyddwyr yn gyffredinol yn ymddiried mewn cwmnïau awyrennau i ofalu amdanynt, ond bod rhai defnyddwyr wedi cael profiadau negyddol wrth hawlio ad-daliad a’u bod wedi cael eu hannog i dderbyn talebau teithio neu aildrefnu’r hediad. Oherwydd y diffyg gwybodaeth am sut i hawlio ad-daliadau, mae rhai wedi cael eu gadael ar eu colled.

Er bod cyfyngiadau teithio wedi'u diddymu ac mae’r rheoliadau teithio wedi mynd yn llai cymhleth, mae achosion o ganslo hediadau’n parhau i fod yn broblem fawr i lawer o deithwyr.  Mae'n hanfodol i gwsmeriaid a chwmnïau awyrennau gael deialog ar y mater hwn. Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi'i drefnu ar gyfer y cyhoedd, yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n bresennol ddeall eu hawliau fel teithwyr awyr ac i gwmnïau hedfan estyn allan at ddefnyddwyr.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Carmela Bosangit, Uwch-ddarlithydd Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Sara Drake, Darllenydd yng Nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Chyfraith Cystadleuaeth yr UE ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Charlotte Rimmer, Darlithydd ym Ysgol Busnes Bangor

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch

18:30-20:30

Mae cymdeithasau’n wynebu heriau cymhleth ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus (gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, tai, rheoli gwastraff, plismona ac ati) dan bwysau mawr. Ni allwn ddatrys problemau nad ydym yn eu trafod, felly dewch draw i chwarae gêm fwrdd newydd, sydd wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau ynghylch gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn, sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gêm fwrdd yn cael ei chwarae mewn timau o 4, ond gallwch ddod fel grŵp mwy neu lai o faint a chael eich paru â phobl eraill yn y fan a'r lle.

Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ar gaffael cyhoeddus sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Oishee Kundu a yr Athro Jane Lynch, a dewch yn fwy ymwybodol o’ch ardal leol a’i threfniadau llywodraethu.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Oishee Kundu, Cydymaith Ymchwil ar gyfer Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Jane Lynch, Athro mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion

Cofrestrwch

11:30-13:00

Sgwrs ryngweithiol a gweithgareddau gan y Labordy Dwyieithrwydd Plant: bydd y sawl sy’n mynychu yn cael clywed am ein hymchwil diweddaraf mewn sgwrs dwyieithog, ac yn cael cyfle i roi cynnig ar dasgau a gemau.

Oeddech chi'n gwybod bod dysgu dwy iaith yn gallu gwella sgiliau gwybyddol plant? Neu fod plant ag anableddau datblygiadol yn gallu dysgu Cymraeg a Saesneg heb anawsterau iaith ychwanegol? Mae’r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn ymchwilio i sgiliau iaith a sgiliau meddwl plant dwyieithog, gan ganolbwyntio ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg.

Trwy fynychu'r digwyddiad hwn, bydd y sawl sy’n mynychu’n cael profiad ymarferol o ddefnyddio offerynnau a gwneud gweithgareddau arbenigol. Byddant hefyd yn dysgu am sut mae sgiliau iaith a sgiliau meddwl yn datblygu mewn plant sy'n dod i gysylltiad â dwy iaith, gan gynnwys plant ag anableddau datblygiadol megis syndrom Rett a syndrom Down.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal gan y Labordy Dwyieithrwydd Plant: Dr Eirini Sanoudaki, Dr Athanasia Papastergiou (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor), Dr Rebecca Ward (Ysgol Seicoleg, Prifysgol Abertawe) a myfyrwyr Doethurol Prifysgol Bangor Bethan Collins, Rebecca Day a Felicity Parry.

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch

13:30-15:00

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys dwy adran; cyflwyniad/trafodaeth gan ymchwilwyr o Fangor ar bwnc Incwm Sylfaenol Cyffredinol a’r Newid yn yr Hinsawdd, ac yna adran holi ac ateb. Bydd y sesiwn holi ac ateb yn gyfle i'r mynychwyr ofyn cwestiynau ynghylch y pwnc a drafodwyd gan yr awduron, neu gwestiynau sy’n gysylltiedig ag ef.

Yn ystod y digwyddiad hwn, trafodir yn feirniadol y syniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol gan ganolbwyntio ar sut y gall y syniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol helpu i ddatrys y broblem gymdeithasol fyd-eang bresennol o ran y newid yn yr hinsawdd. Yn gryno: Mae llywodraethau ledled y byd yn cyhoeddi “argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol” i dynnu sylw at sut mae pobl wedi newid y ddaear mewn ffyrdd anghynaliadwy dros ychydig o genedlaethau. Mae cyflymder cynhesu byd-eang wedi gohirio dechrau'r oes iâ nesaf ac mae llywodraethau'r byd wedi datgan bod hinsawdd newydd yn dod i’r amlwg. Mae gwyddonwyr cymdeithasol wedi dadansoddi polisïau a gynlluniwyd ar gyfer yr Anthroposen. Mae ymchwil Cynaliadwyedd Natur yn canolbwyntio ar fesurau gorchymyn a rheoli fel trethi, cymorthdaliadau a dirwyon. Ymhlith yr hen bolisïau posibl hyn yr ystyrir eu bod yn bolisïau posibl y gellid eu defnyddio i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang, mae'r Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Felly, ai’r syniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw'r ateb i'r newid yn yr hinsawdd sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd? Sut mae gweithredoedd a gweithgareddau dynol yn newid yr hinsawdd?

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'r pwnc hwn yn feirniadol er mwyn achub ein planed.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Stella Gmekpebi Gabuljah a Dr Hefin Gwilym o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor

Bydd croeso i bawb.

Cofrestrwch

15:00-16:30

Elfen ganolog y digwyddiad hwn yw gweminar wedi'i recordio ymlaen llaw, ac yna sesiwn holi ac ateb fyw. Bydd y recordiad a holi ac ateb ar gael ar-lein yn dilyn y digwyddiad. Bydd cwestiynau ychwanegol hefyd yn cael eu hateb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, sef astudiaeth hydredol o’r newid mewn canfyddiadau disgyblion ysgolion uwchradd dros y 10 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhoi cipolwg ar sut rydym yn gweithio gydag ysgolion a llunwyr polisïau.
Y prif ffocws fydd dathlu llais disgyblion, a rhannu eu safbwyntiau newidiol ar faterion o ddiddordeb i lunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys:
- Sut mae'r pandemig wedi effeithio ar brofiadau ysgol.
- Canfyddiadau o’r ysgol wrth i’r broses o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru barhau.
- Ymgysylltu â disgyblion yn cynnwys materion fel gwleidyddiaeth, lles a chydraddoldeb
- Uchelgeisiau a dyheadau ar gyfer gwaith, astudio a bywyd teuluol yn y dyfodol.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Laura Arman, Cydymaith Ymchwil ar gyfer WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Chris Taylor, Athro Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Rhian Barrance, Darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Sally Power, Athro Gwyddorau Cymdeithasol a Cyd-gyfarwyddwr ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd y digwyddiad hwn o fudd i athrawon, llywodraethwyr ysgol, gweithwyr addysg proffesiynol a llunwyr polisïau yn enwedig, gan y bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cipolwg ar y materion sy'n effeithio ar ddisgyblion. Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am sut mae WMCS yn dod ag ymatebion ar bynciau gwahanol at ei gilydd i greu darlun o fywydau disgyblion, a bydd athrawon hefyd yn dysgu sut gall eu hysgol gymryd rhan yn y prosiect yn y dyfodol.

Cofrestrwch

17:00-18:30

Mae’r gweithdy hwn yn archwilio cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol sut rydym yn defnyddio planhigion, yn rheoli ein hiechyd corfforol ac yn cynrychioli byd natur. Mae'r drafodaeth yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwahanol draddodiadau meddyginiaethol ac ecogyfeillgar ac arferion presennol, a sut mae'r rhain yn cael eu cynrychioli mewn lleoliadau cyhoeddus fel amgueddfeydd, gan ganolbwyntio ar wybodaeth sy'n berthnasol i bobl ac yn gysylltiedig â'u hamgylchedd lleol e.e. ardal Caerdydd.

Yn ystod y gweithdy byddwn yn dangos ac yn sôn am amrywiaeth o gynhyrchion a phlanhigion sydd wedi cael eu defnyddio gan fenywod ar hyd y blynyddoedd i’w cefnogi yn ystod eu mislif, ac yn ystyried sut mae arferion gofal personol, cysylltiadau cymdeithasol a phryderon ecolegol wedi effeithio ar wahanol dueddiadau ac wedi’u llywio. Byddwn yn cynnig cyfle i flasu te o dri gwahanol blanhigyn a bydd perlysieuyn sych yn cael ei gynnig i gyfranogwyr fynd ag ef adref.

Mae’r gweithdy hwn yn ystyried sut y gallwn ddatblygu gwybodaeth ymarferol am sut i ofalu am iechyd gan ddefnyddio perlysiau/planhigion fel cynhyrchion mislif, tra’n ystyried y ffordd orau o gyfleu’r wybodaeth hon i eraill mewn lleoliadau cyhoeddus. Mae’r ymchwil sy’n sail i’r digwyddiad hwn yn cael ei gwneud mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Fiona Roberts, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Alice Essam, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd
  • Amelia Curtis-Rogers, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r digwyddiad hwn yn arbennig o addas ar gyfer oedolion a phobl ifanc

Cofrestrwch

14:00-16:00

Mae hwn yn ddigwyddiad adrodd straeon ‘o gwmpas y tân’, a bydd y chwedleuwr proffesiynol Milly Jackdaw, a Lucy Finchett-Maddock yn gweithio'n rhyngweithiol gyda chyfranogwyr ac aelodau'r gynulleidfa i adrodd chwedlau Cymreig dewisol o hanes a llên gwerin, er mwyn cyfathrebu a nodi egwyddorion y gyfraith a geir mewn ‘llên’. Bydd ffocws y straeon yn ymwneud yn benodol â chyfiawnder amgylcheddol, megis ‘Rhyfel y Sais Bach’ gan Eirion Jones ar hawliau cyffredin a stiwardiaeth, a'r hyn sydd fwyaf perthnasol i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd, a ddewisir o'r Mabinogion.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau adrodd straeon sylfaenol, yn ogystal â meysydd cyfraith sy'n ymwneud â'r amgylchedd (gan ganolbwyntio'n benodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015), er mwyn ystyried pa mor ddefnyddiol yw adrodd straeon fel dull o ddysgu am y gyfraith.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Lucy Finchett-Maddock, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor
  • Milly Jackdaw, Chwedleuwr Proffesiynol

Mae'r digwyddiadau yn agored i oedolion a phobl ifanc

Cofrestrwch

11:30-13:30

Mae cymdeithasau’n wynebu heriau cymhleth ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus (gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, tai, rheoli gwastraff, plismona ac ati) dan bwysau mawr. Ni allwn ddatrys problemau nad ydym yn eu trafod, felly dewch draw i chwarae gêm fwrdd newydd, sydd wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau ynghylch gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn, sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gêm fwrdd yn cael ei chwarae mewn timau o 4, ond gallwch ddod fel grŵp mwy neu lai o faint a chael eich paru â phobl eraill yn y fan a'r lle.

Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ar gaffael cyhoeddus sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Oishee Kundu a yr Athro Jane Lynch, a dewch yn fwy ymwybodol o’ch ardal leol a’i threfniadau llywodraethu.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Oishee Kundu, Cydymaith Ymchwil ar gyfer Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Jane Lynch, Athro mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r digwyddiad hwn yn cyfeillgar i deuluoedd

Cofrestrwch

14:00-16:00

Bydd y digwyddiad yn gyflwyniad i wefan Deall Lleoedd Cymru. Bydd cyflwyniad byr ac yna gweithdy rhyngweithiol, ymarferol lle gall y rhai sy’n bresennol ddysgu sut i ddefnyddio'r wefan. Dangosir i chi sut y gallwch ddefnyddio data am eich ardal leol (Caerdydd a de Cymru / Bangor a gogledd Cymru) i’ch helpu i ddeall ble rydych yn byw a sut mae’n debyg neu’n wahanol i leoedd cyfagos. Gallai archwilio’r pethau sy’n debyg a’r cyferbyniadau rhyngddynt roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gallwch rannu enghreifftiau o’ch arfer gorau gydag eraill.

Ar wefan Deall Lleoedd Cymru, cewch ddata a gwybodaeth ddaearyddol ddefnyddiol am eich tref neu ardal leol, i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd i’ch cymuned. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o bobl yn byw yno. Os ydych chi’n byw mewn tref neu gymuned sydd â llai na 2,000 o bobl, byddwch yn sylwi bod llai o ddata ar gael nag ar gyfer lleoedd mwy. Ceir data ar gyfansoddiad demograffig, cymdeithasol ac economaidd ardaloedd, argaeledd gwasanaethau ac asedau cymunedol gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, a data ar sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd fel patrymau cymudo a mudo. Bydd y graffeg, y mapiau a’r canllawiau yn eich helpu i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y man lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Scott Orford, Athro mewn Dadansoddi Gofodol a GIS ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Sam Jones, Swyddog Data Ymchwil WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd

Er y gall unrhyw un fynd i’r digwyddiad, hoffem yn arbennig ddenu aelodau o gynghorau tref a chymuned, cymdeithas sifil a grwpiau trydydd sector a fyddai’n elwa o weithio gyda data cymharol ar eu hardaloedd lleol.

Cofrestrwch

10:00-12:00

Bydd y sesiwn tair awr hon yn weithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb i archwilio barn pobl mewn gofal cymdeithasol a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol. Mae’r digwyddiad hwn yn archwilio canfyddiadau prosiect ymchwil, a gynhelir ar y cyd gan Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Tîm Canlyniadau Pŵer Pobl yn Nesta. Edrychodd y prosiect ar gefnogaeth ar gyfer arloesedd ym maes gofal cymdeithasol.

Yn ystod y sesiwn byddwn yn: trafod canfyddiadau’r ymchwil yn fras, edrych ar rai o’r allbynnau gweledol a gynhyrchwyd gan yr ymchwil, rhyngweithio â straeon a safbwyntiau pobl am yr hyn y mae angen ei newid, a mireinio’r 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru y mae ein cyfranogwyr ymchwil wedi ein hysbrydoli i’w chreu.

Rydym yn gwybod nad yw ein systemau gofal cymdeithasol yn gweithio, ond beth allwn ni ei wneud i newid hynny a chreu Cymru iachach? Os ydych chi'n angerddol am ofal cymdeithasol - dewch i rannu, rhwydweithio a chyfnewid, a dweud eich dweud am yr hyn a ddylai ac a allai ddigwydd. Mae croeso i bawb - yn enwedig y rhai nad ydynt yn gwybod beth yw ystyr y gair 'arloesedd'. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i dargedu at bobl sy’n gwneud gwaith ynghylch gofal cymdeithasol neu’n gweithio ynddo, y rhai sydd â phrofiad bywyd yn ein system gofal cymdeithasol, a’r teuluoedd (neu rwydweithiau cymorth) sy’n ei ddefnyddio.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Alexis Palá, Cydymaith Ymchwil yn Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Stephanie Griffith, Rheolwr Arloesedd yn sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion a defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Cofrestrwch

10:30-11:30

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda ffilm fer sy'n dangos taith unigolyn ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth iddo geisio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, a rhai o'r rhwystrau y gellir dod ar eu traws. Mae hyn yn arwain at drafodaeth o'r pwnc a fydd yn cynnwys elfen ryngweithiol gyda'r nod o annog cyfranogwyr i ystyried gwasanaethau iechyd meddwl trwy lygaid pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r ffilm fer a'r gweithgareddau wedi'u cynllunio ar y cyd â phobl ifanc.

Y pwnc trafod yw anghenion iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'r bylchau a'r rhwystrau o ran eu gallu i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl o bell. Gall mynychwyr ddisgwyl dysgu mwy am y pwnc a rhywfaint o'r gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud yn y maes hwn.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Aimee Cummings, Myfyriwr PhD gyda CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Lorna Stabler, Cydymaith Ymchwil gyda CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae croeso i unrhyw un fynychu, ond mae'r digwyddiad hwn yn fwy addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc, yn enwedig darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, neu eu gofalwyr.

Cofrestrwch

13:00-14:30

Sesiwn ar-lein yw'r digwyddiad hwn i drafod teimladau a gwybodaeth am iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn defnyddio gweithgareddau darlunio ac ysgrifennu i ystyried materion sy'n ymwneud â'u gwybodaeth am iechyd a ffrwythlondeb y ceilliau, a'u teimladau am drafod iechyd y ceilliau gyda chyfoedion, teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dilynir hyn gan drafodaeth grŵp ynghylch sut y gall teimladau a gwybodaeth effeithio ar ymddygiad unigolyn wrth geisio cymorth a beth allai gael ei wneud i helpu dynion ifanc i drafod pryderon ynghylch iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Gwahoddir y grŵp i wylio pedwar animeiddiad ar iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb, a myfyrio ar sut maen nhw’n effeithio ar feddyliau, teimladau a gwybodaeth flaenorol ynghylch y pwnc. Datblygwyd yr

animeiddiadau hyn mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ffrwythlondeb Prydain.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • China Harrison, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Jacky Boivin, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unigolion 14-25 oed

Cofrestrwch

17:15-18:30

'Rwy'n meddwl bod tawelwch meddwl a maddeuant yn mynd law yn llaw i raddau helaeth'

Nod y seminar hwn, sy’n awr o hyd, yw taflu goleuni ar sut mae maddau (a pheidio â maddau) yn chwarae rôl hollbwysig, ond disylw yn aml, yn ein perthnasoedd personol. Bydd canfyddiadau o brosiect ymchwil gymdeithasegol parhaus yn cael eu defnyddio i amlygu’r amryw ffyrdd y mae maddeuant yn berthnasol i berthnasoedd: o gynnal partneriaethau o ddydd i ddydd, a chymodi ar raddfa fach mewn cyfeillgarwch a theuluoedd, i adfer o'r rhai o’r amgylchiadau, camweddau, ac achosion mwyaf heriol o fradychu. Gyda lwc, bydd y cyflwyniad hwn yn ysgogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ystyried eu profiadau eu hunain o faddeuant, ac yn ein hannog ni i feddwl am sut y gall perthnasoedd ffynnu a dioddef mewn perthynas â maddeuant.

Er mwyn dangos pa mor gyffredin yw maddeuant yn ein bywydau bob dydd, bydd y digwyddiad yn dechrau drwy gynnal 'Bingo Maddeuant', gan ofyn cwestiynau fel: Ydych chi erioed wedi maddau i ffrind? Oes unrhyw un erioed wedi dweud wrthych chi na ddylech chi faddau i rywun? Dilynir hyn gan drafodaeth am deimladau a phrofiadau o faddeuant gan ddefnyddio enghreifftiau o ganfyddiadau ymchwil Owen Abbott i’n tywys.

Nodyn ar sensitifrwydd

Mae'r sesiwn hon yn cynnwys trafodaethau am faddeuant mewn perthnasoedd personol, a bydd y rhain yn sensitif eu natur yn ôl pob tebyg. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu croesawu i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain os ydynt yn fodlon gwneud hynny. Fodd bynnag, nid oes rhaid gwneud hynny os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus. Rhaid parchu trafodaethau am brofiadau pobl, a rhaid gwrando arnynt ac ymateb mewn modd meddylgar. Cefnogir y digwyddiad gan OnePlusone, elusen sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o gefnogi perthnasoedd pobl a’u cryfhau. Byddant wrth law i gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan os bydd angen hynny.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

  • Owen Abbot, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Penny Mansfield, Ymchwilydd Arweiniol ar y Cyd yn OnePlusOne

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.

Cofrestrwch