Ewch i’r prif gynnwys

Cefndir

FOSS 2024 Banner english

Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddathliad blynyddol i ymgysylltu â'r cyhoedd gydag ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhagorol sy'n digwydd mewn prifysgolion ledled y DU.

Mae'r term gwyddorau cymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â chymdeithas, cymunedau a phobl, gan gynnwys economeg, seicoleg, cymdeithaseg, rheolaeth ac astudiaethau busnes, y gyfraith, hanes economaidd a chymdeithasol, gwleidyddiaeth a daearyddiaeth ddynol, ymhlith eraill.

Cynhelir gŵyl 2024 rhwng 19 Hydref a 9 Tachwedd 2024 gyda channoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cyflwyno gan 41 o sefydliadau partner ledled y DU.

Thema'r ŵyl eleni yw "ein bywydau digidol", gyda nifer o ddigwyddiadau yn archwilio'r maes hwn yn ogystal ag eraill yn cwmpasu ystod eang o bynciau'r gwyddorau cymdeithasol.

Ymunwch â ni wrth i ni rannu ymchwil a gwybodaeth effeithiol Prifysgol Caerdydd sy'n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Ariennir yr Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol gan yr ESRC, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Cysylltu â ni

ESRC IAA Team