Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen gŵyl 2024

Dyma grynodeb o ddigwyddiadau gan Prifysgol Caerdydd sy'n cael eu cynnal ar gyfer Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2024.

Teitl y digwyddiadAmserDisgrifiad

Collage a Chysylltedd: Archwilio effaith y byd digidol ar hunaniaeth a lles

19 Hydref 2024, 11:30 - 13:30

Gweithdy celf greadigol i oedolion ifanc fydd yn trin a thrafod yr heriau ynghlwm wrth iechyd meddwl yn sgil y byd sy’n dod yn fwy digidol.

Mae’r byd digidol a gofodau ar-lein yn creu cyfleoedd ar gyfer dysgu, creadigrwydd a rhyngweithio cymdeithasol - ond mae hefyd yn creu her i iechyd meddwl a lles, yn enwedig i bobl ifanc.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi llwyfan i bobl 18-25 oed rannu eu profiadau ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol drwy greu celf ar y cyd ag artistiaid proffesiynol i wella iechyd meddwl a gwydnwch.

Dan arweiniad Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwella - sefydliad Celfyddydau mewn Iechyd yn Ne Cymru sy’n defnyddio creadigrwydd i wella deilliannau cymdeithasol a lles - bydd cyfranogwyr yn datblygu dealltwriaeth well o effaith y byd digidol ar eu hiechyd meddwl.

Collage a Chysylltedd: Archwilio effaith y byd digidol ar hunaniaeth a lles

19 Hydref 2024, 14:00 - 16:30

Gweithdy celf greadigol i oedolion ifanc fydd yn trin a thrafod yr heriau ynghlwm wrth iechyd meddwl yn sgil y byd sy’n dod yn fwy digidol.

Mae’r byd digidol a gofodau ar-lein yn creu cyfleoedd ar gyfer dysgu, creadigrwydd a rhyngweithio cymdeithasol - ond mae hefyd yn creu her i iechyd meddwl a lles, yn enwedig i bobl ifanc.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi llwyfan i bobl 18-25 oed rannu eu profiadau ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol drwy greu celf ar y cyd ag artistiaid proffesiynol i wella iechyd meddwl a gwydnwch.

Dan arweiniad Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwella - sefydliad Celfyddydau mewn Iechyd yn Ne Cymru sy’n defnyddio creadigrwydd i wella deilliannau cymdeithasol a lles - bydd cyfranogwyr yn datblygu dealltwriaeth well o effaith y byd digidol ar eu hiechyd meddwl.

Archwilio deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol drwy'r Celfyddydau yng Nghymru19 Hydref 2024, 10:30 - 13:00 

Gweithdy i artistiaid proffesiynol ac ymarferwyr creadigol i arbrofi gyda deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ag ystyried ei effaith ar eu meysydd creadigol.

Mae modelau AI cynhyrchiol sy'n gallu creu testun, delweddau, fideos a sain yn dod yn fwy a mwy hygyrch. Mae cymuned y celfyddydau wedi codi pryderon am effaith modelau o'r fath ar eu gwaith a'u hawliau mewn dyfodol sy'n fwyfwy awtomataidd.

Dan arweiniad grŵp ymchwil Technoleg Newydd a Chymdeithas Ddigidol, sydd wedi ymrwymo i ddeall y risgiau, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â thechnoleg newydd a chymdeithas ddigidol, mae'r digwyddiad hwn yn archwilio'r fersiynau diweddaraf o AI cynhyrchiol.

Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu’n greadigol ac yn arbrofi gyda modelau AI cynhyrchiol i drafod, cydweithio a chreu set o weledigaethau a rhagfynegiadau ar gyfer yr effaith y bydd AI cynhyrchiol yn ei chael ar eu meysydd creadigol.

Bydd yr adborth a gasglwyd yn y gweithdy yn helpu i lywio ymchwil pellach ar effaith ac ymgysylltiad y celfyddydau yng Nghymru ag AI cynhyrchiol.

Archwilio deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol drwy'r Celfyddydau yng Nghymru19 Hydref 2024, 14:30 - 17:00

Gweithdy i artistiaid proffesiynol ac ymarferwyr creadigol i arbrofi gyda deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ag ystyried ei effaith ar eu meysydd creadigol.

Mae modelau AI cynhyrchiol sy'n gallu creu testun, delweddau, fideos a sain yn dod yn fwy a mwy hygyrch. Mae cymuned y celfyddydau wedi codi pryderon am effaith modelau o'r fath ar eu gwaith a'u hawliau mewn dyfodol sy'n fwyfwy awtomataidd.

Dan arweiniad grŵp ymchwil Technoleg Newydd a Chymdeithas Ddigidol, sydd wedi ymrwymo i ddeall y risgiau, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â thechnoleg newydd a chymdeithas ddigidol, mae'r digwyddiad hwn yn archwilio'r fersiynau diweddaraf o AI cynhyrchiol.

Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu’n greadigol ac yn arbrofi gyda modelau AI cynhyrchiol i drafod, cydweithio a chreu set o weledigaethau a rhagfynegiadau ar gyfer yr effaith y bydd AI cynhyrchiol yn ei chael ar eu meysydd creadigol.

Bydd yr adborth a gasglwyd yn y gweithdy yn helpu i lywio ymchwil pellach ar effaith ac ymgysylltiad y celfyddydau yng Nghymru ag AI cynhyrchiol.

Sut i ddefnyddio Instagram i sefyll allan yn eich gyrfa25 Hydref 2024, 09:30 - 11:30

Dyma ddosbarth meistr ymarferol rhad ac am ddim ar ddatblygu proffil Instagram proffesiynol. Mae’r sesiwn ar gyfer menywod yn y gymuned fusnes.

Mae gwybod sut mae adeiladu brand digidol i ddenu gyrfa, cleientiaid a chyfleoedd busnes yn dod yn rhan bwysig o lwyddo’n broffesiynol ac ym myd busnes.

Yn seiliedig ar ymchwil i gynrychiolaeth menywod yn y cyfryngau, ymunwch â'n Hysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant am weithdy ymarferol ar sut i adeiladu eich brand ar-lein a mynd â'ch proffil Instagram i'r lefel nesaf, yn arbennig ar gyfer menywod busnes ac entrepreneuriaid lleol.

Bydd proses cam wrth gam i’r digwyddiad ar gyfer datblygu eich proffil Instagram proffesiynol, gan gynnwys creu bwrdd arddull personol i’ch brand. Yna, bydd ffotograffydd proffesiynol yn dod i dynnu lluniau er mwyn perffeithio’ch proffil.

Cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol trwy ddata cenedlaethol.6 Tachwedd 2024, 18:00 - 20:00

Sgwrs a gweithdy i archwilio’r defnydd o ddata cenedlaethol i gefnogi plant ag ADY yn well.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru yn defnyddio data gweinyddol i ateb cwestiynau am addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae’r sgwrs hon, sydd ar agor i rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr sy’n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn rhoi cyflwyniad i ddata gweinyddol: beth yw e, sut mae’n cael ei gasglu, a sut mae’n cael ei storio yn ddiogel.

Bydd ymchwilwyr yn rhannu enghreifftiau o astudiaethau a gynhaliwyd gyda’r data hwn, a sut maent wedi dylanwadu ar bolisi i wella profiad ysgol plant ag ADY yng Nghymru.

Yn dilyn y sgwrs, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu eu barn ar bynciau o flaenoriaeth ar gyfer ymchwil ADY, trwy awgrymu cwestiynau ymchwil y gellid eu gofyn gyda'r data.

Bydd y mewnwelediadau hyn yn helpu Prifysgol Caerdydd i bennu blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y dyfodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau.

Cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol trwy ddata cenedlaethol.7 Tachwedd 2024, 16:30 - 18:00

Sgwrs a gweithdy i archwilio’r defnydd o ddata cenedlaethol i gefnogi plant ag ADY yn well.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru yn defnyddio data gweinyddol i ateb cwestiynau am addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae’r sgwrs hon, sydd ar agor ii weithwyr proffesiynol addysg sy'n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ysgolion cynradd, yn rhoi cyflwyniad i ddata gweinyddol: beth yw e, sut mae’n cael ei gasglu, a sut mae’n cael ei storio yn ddiogel.

Bydd ymchwilwyr yn rhannu enghreifftiau o astudiaethau a gynhaliwyd gyda’r data hwn, a sut maent wedi dylanwadu ar bolisi i wella profiad ysgol plant ag ADY yng Nghymru.

Yn dilyn y sgwrs, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu eu barn ar bynciau o flaenoriaeth ar gyfer ymchwil ADY, trwy awgrymu cwestiynau ymchwil y gellid eu gofyn gyda'r data. Bydd y mewnwelediadau dienw hyn yn helpu Prifysgol Caerdydd i bennu blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y dyfodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau. Rydym yn cydnabod bod yna wahanol gymhellion i gyfrannu at ein hymchwil - os ydych chi am gael eich ad-dalu am eich amser, bydd talebau ar gael i'r rhai sy'n bresennol ar ôl y digwyddiad.

Deallusrwydd Artiffisial mewn diwylliant a threftadaeth

7 Tachwedd 2024,  15:30 - 17:00

Gweithdy sy'n archwilio creu ôl-fywydau digidol mewn cyd-destunau diwylliannol.

Mae datblygiadau diweddar i dechnolegau dysgu dwfn yn galluogi data i gael ei newid neu ei drin i greu mathau newydd o ‘fywyd ar ôl marwolaeth’ - megis atgyfodiadau ‘holograffig’ o enwogion, ffigurau hanesyddol ffug, a lluniau archif wedi’u hanimeiddio.

Mae ymchwil gan yr Ysgol Newyddiaduraeth a Diwylliant ochr yn ochr â Choleg y Brenin, Llundain, yn archwilio’r defnydd o’r prosesau awtomataidd ac algorithmig hyn, a'u heriau moesegol y maent yn eu cyflwyno.

Ymunwch â'r ymchwilwyr a'n partner creadigol, yello brick, mewn gweithdy i archwilio sut mae creu bywyd ar ôl marwolaeth, a dysgu sut y gellir defnyddio a chamddefnyddio data digidol.

Bydd cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol o heriau moesegol, ynghyd â chyfle i greu bywyd ar ôl marwolaeth synthetig, a rhyngweithio â gwaith ein partner creadigol, yello brick.

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â bywyd ar ôl marwolaeth algorithmig, yn ogystal ag offer a chysylltiadau o fewn y sectorau creadigol a diwylliannol i helpu i lywio'r datblygiadau arloesol hyn yn gyfrifol.

Gwelwch digwyddiadau eraill sy'n digwydd ledled y DU ar gyfer Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol