Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Gwyl 2023

Dyma grynodeb o ddigwyddiadau gan Prifysgol Caerdydd sy'n cael eu cynnal ar gyfer Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023.

Teitl y digwyddiadAmserDisgrifiad
Creu a gwerthuso newid radical yn system fwyd Cymru24 Hydref 2023, 09:30 - 14:00

Rydym yn gwahodd yr holl ymarferwyr a dinasyddion bwyd sydd â diddordeb mewn creu system fwyd fwy cynaliadwy sy’n sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at fwyd maethlon, fforddiadwy i ymuno â ni ar gyfer gweithdy rhannu sgiliau rhyngweithiol sy’n archwilio pam a sut rydym yn gwerthuso i greu gwell systemau bwyd.

Trawsnewid Ymchwil Gymdeithasol: Pe Gallai Pryder Mathemateg Siarad25 Hydref 2023, 15:45 - 16:45

Mae ymchwil i orbryder mathemateg, fel y mae myfyrwyr israddedig y DU wedi’i brofi ac yn adrodd arno, yn codi cwestiynau ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn arfer gorau mewn addysgu.

Anifeiliaid a'r Ddinas: Anifeiliaid Anwes a Chŵn Cymorth25 Hydref 2023 - 10 Tachwedd 2023 

Arddangosfa o ffotograffau a fideos byr sy'n rhoi sylw i drawsnewidiadau o ran arferion gofal, ymysg y rhain mae cymorth gan anifeiliaid, yn enwedig cŵn (ar gyfer pobl â PTSD, awtistiaeth, dementia, cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol eraill ac anableddau).

Cerdded, beicio ac olwyno ar gyfer teithiau pwrpasol26 Hydref 2023 - 10 Tachwedd 2023

Mae’r digwyddiad rhyngweithiol hwyliog hwn yn annog teuluoedd i feddwl am deithio llesol fel opsiwn ar gyfer teithiau byrrach.

Dathlu Lles Gydol Oes yng Nghymru26 Hydref 2023, 14:30 - 18:00Ymunwch â ni am gipolwg anhygoel ar Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023 ynghyd â thrafodaeth banel.
Gadewch i ni archwilio lles!26 Hydref 2023, 14:30 - 18:00

Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd, grwpiau diddordeb arbennig a'r trydydd sector archwilio sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o iechyd a lles, dylanwadu ar ddatblygu polisïau a chefnogi mentrau iechyd a lles o fewn cymdeithas.

Dewch i ni Archwilio Lles! - Ysgolion26 Hydref 2023, 08:30 - 13:30

I ddathlu Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol eleni, hoffai Prifysgol Caerdydd wahodd ysgolion cynradd ac uwchradd i archwilio ein hymchwil a'r amrywiaeth o ffyrdd y mae'r gwyddorau cymdeithasol yn cefnogi lles gydol oes yn ein diwrnod 'Dewch i Archwilio Lles!'.

Nofio gwyllt er lles: Sgrinio ffilm, sgwrs a gweithdy celf11 Tachwedd 2023, 10:00 - 13:00

Yn seiliedig ar straeon menywod sy’n ymdrochi, yn plymio ac yn nofio mewn afonydd, llynnoedd a moroedd, mae The Water Holds Me/The Water Binds Us, yn ffilm sy’n dathlu pŵer dŵr i adfer ac adfywio ein perthynas â byd natur a’n gilydd.

Hygyrchedd i gerddoriaeth ar gyfer lles pobl Fyddar: Sgwrs a Gweithdy BSL16 Tachwedd 2023, 15:30 - 17:30

Dysgwch am bwysigrwydd hygyrchedd i gerddoriaeth, a sut y gellir cyfieithu cerddoriaeth i Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Dysgwch fwy am effaith ac uchafbwyntiau Gŵyl Gwyddorau Gymdeithasol ESRC 2023.