Adnoddau ar-lein
Gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth mewn ystod eang o adnoddau ar-lein.
Mae’r Ganolfan yn rheoli ac yn datblygu gwasanaeth gwybodaeth y Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO), sef ein prif ffynhonnell gwybodaeth bellach ac yn ased allweddol wrth inni adolygu ein casgliadau print. Adnodd ar-lein sy’n rhad ac am ddim yw ESO.
Dyma'r prif borth y bydd y tîm yn ei ddefnyddio i gasglu’r adnoddau electronig perthnasol sy'n ymwneud â materion Ewropeaidd a rhoi gwybod amdanyn nhw. Mae hefyd yn cynorthwyo defnyddwyr i ddod o hyd i gyhoeddiadau ar-lein a oedd ar gael yn flaenorol yn y casgliadau print.
Mae ESO yn casglu cyfuniad o ffynonellau sylfaenol ac eilaidd at ei gilydd – datganiadau swyddogol i'r wasg, testunau deddfwriaethol a dogfennau cyhoeddus eraill, adroddiadau’r cyfryngau ac erthyglau barn, blogiau ac adroddiadau, erthyglau cyfnodolion a gwerslyfrau, pyrth gwybodaeth eraill a llawer mwy. Mae nifer o ganllawiau gwybodaeth ar gael hefyd.
Mae’r tîm golygyddol yn rhan o Ganolfan Gwybodaeth Ewrop. Fodd bynnag, mae nifer o lyfrgellwyr ac arbenigwyr gwybodaeth o bob rhan o Ewrop hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gynyddu'r cyfoeth o gynnwys y mae’r Ganolfan yn ei gasglu. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o fanylion am hyn ar dudalen amdanon ni y Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein.
Mae’r tîm yn y Ganolfan hefyd yn hapus i helpu defnyddwyr sydd eisiau pori drwy beiriannau chwilio, cronfeydd data a gwefannau defnyddiol eraill i ddod o hyd i wybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd ac Ewrop yn gyffredinol.
Mae ESO yn wasanaeth am ddim sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth am yr UE ac Ewrop ehangach, gydag amrywiaeth eang o wefannau, cronfeydd data, cyhoeddiadau a dogfennau.