Amdanom ni
Ail-lansiwyd Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd yn 2023 yn rhan o dîm yCasgliadau Arbennig a’r Archifau. Rydyn ni ar lawr gwaelod Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Rydyn ni ar agor drwy apwyntiad yn unig.
Beth yw ein cenhadaeth?
Mae'r Canolfan Gwybodaeth Ewropeaidd yn casglu arbenigedd, yn cynnig gwybodaeth arbenigol ac yn hwyluso mynediad at gynnwys ar unrhyw ddimensiwn sy'n ymwneud ag Ewrop – ei gwledydd a'i rhanbarthau, ei realiti cymhleth, ei sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol (gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd), a’i chysylltiadau â gweddill y byd.
Rydyn ni’n rhoi cymorth i’r gwaith o astudio materion Ewropeaidd yn gyffredinol, a'r dimensiwn Ewropeaidd cynyddol ar draws disgyblaethau academaidd gwahanol. Rydyn ni’n rhoi’r cyfle i randdeiliaid a dinasyddion gysylltu â'r Undeb Ewropeaidd a'r dimensiwn Ewropeaidd yn ein bywydau, a chael gwybod rhagor amdano.
Tri phrif faes gweithgarwch yr Hwb yw:
- cymorth o ran ymchwil ac addysgu
- cydweithio allanol ac ymgysylltu sifig
- rheoli casgliadau
Rydyn ni ar agor i fyfyrwyr ac ymchwilwyr o bob sefydliad yn y rhanbarth, yn ogystal â'r cyhoedd, ac yn arbennig felly y gymuned leol. Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio’n bennaf ar weithgareddau'r Undeb Ewropeaidd, ond rydyn ni hefyd yn cynorthwyo pobl i ddod o hyd i wybodaeth am holl wledydd a rhanbarthau Ewrop, ac am sefydliadau rhyngwladol eraill sy'n gweithredu yn Ewrop.
Hanes y Ganolfan
Y Ganolfan yw olynydd Canolfan Dogfennau Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd (EDC), sef canolfan wybodaeth hirsefydledig a oedd yn canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd. Sefydlwyd yr EDC ym 1973 drwy Gytundeb rhwng y Brifysgol a Chomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd (y Comisiwn Ewropeaidd yn ddiweddarach), ac roedd yn cynnwys rhwydwaith o Ganolfannau Dogfennau Ewropeaidd ledled yr UE ym mhob un o Aelod-wladwriaethau'r UE, bron iawn.
Ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – a arweiniodd at derfynu'r Cytundeb – penderfynodd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd ailwampio'r gwasanaeth a bwrw ymlaen â chenhadaeth yr EDC wrth gefnogi ymchwil a dealltwriaeth ynghylch y lliaws o ddimensiynau Ewropeaidd ar draws y disgyblaethau academaidd gwahanol. Yn 2023, lansiwyd Canolfan Gwybodaeth Ewrop i barhau â'r gweithgareddau a'r cysylltiadau roedd yr EDC wedi’u meithrin yn ystod y blynyddoedd, gan gynnwys datblygu a rheoli gwasanaeth gwybodaeth y Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO).
Rhwng 1980 a 2017, rheolwyd yr EDC gan Ian Thomson. Ers hynny, mae Frederico Rocha wedi cymryd yr awenau ac ef bellach yw’r arbenigwr arweiniol ar wybodaeth Ewropeaidd.