Canolfan wybodaeth ac arbenigedd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd ynghylch unrhyw fater sy'n ymwneud ag Ewrop, ei gwledydd a'i rhanbarthau, ei sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys gweithgareddau a pholisïau'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Rydym yn gwasanaethu myfyrwyr, darlithwyr ac ymchwilwyr mewn addysg uwch, yn ogystal â’r cyhoedd – cymunedau lleol, swyddogion cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Mae gennym fynediad at wybodaeth sylweddol am yr Undeb Ewropeaidd ac Ewrop ehangach, ar bapur ac yn electronig.
Gwybodaeth am ddigwyddiadau diweddaraf y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd.
Mae ESO yn wasanaeth am ddim sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth am yr UE ac Ewrop ehangach, gydag amrywiaeth eang o wefannau, cronfeydd data, cyhoeddiadau a dogfennau.
Newyddion a diweddariadau o'r Ganolfan Wybodaeth Ewropeaidd.