Cryfderau ymchwil
Mae ein cryfderau ymchwil yn cyd-fynd â'n nod i roi arweinyddiaeth ryngwladol ym maes ymchwil drawsddisgyblaethol gan ganolbwyntio ar yr amrywiaeth sy'n hynodi gwerth y dyniaethau.
Ein nod yw creu gwaith sy'n gyfoethog yn ddeallusol; yn arloesol o ran ei arddull, ei ddulliau a’i ffurfiau; ac sy'n creu effaith mewn perthynas â sylfaen ein hymchwil a'n buddiolwyr.
Clystyrau ymchwil
Mae chwe chlwstwr ymchwil yn canolbwyntio ar ein cryfderau ymchwil ymhellach, ac mae pob un ohonyn nhw’n ysbarduno gwaith sy'n cyfuno dwy neu ragor o'n disgyblaethau: diwylliannau digidol, diwylliannau gweledol, rhywedd a rhywioldeb, iaith ac iechyd, diwylliannau Cymreig, moeseg ac iaith.