Ewch i’r prif gynnwys

Gweld Dahl drwy lens Gymreig

Stori o waith allgymorth annisgwyl yn trawsnewid ymgysylltu a chyfranogi llenyddol cenedlaethol.

Ffurfiodd ymchwil Caerdydd strategaeth a gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo llenyddol, yn uniongyrchol, gan sbarduno trawsnewidiad ym model allgymorth y sefydliad, a roddwyd ar waith yn arloesol ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl yn 2016 ac a wreiddiwyd yn llawn yng nghenhadaeth y cwmni.

Datgelodd dadansoddiad arloesol o ffuglen Dahl i blant ac oedolion y marc cymhleth, ffurfiannol a wnaeth Cymru ar ddychymyg yr awdur a'r lensys Cymreig a ddefnyddiai wrth drin ystyriaethau dosbarth, amrywiaeth, cynwysoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Gyda'r canfyddiadau hyn yn ysbrydoliaeth, llwyddodd Llenyddiaeth Cymru i gynyddu ymgysylltu llenyddol cenedlaethol yn ystod blwyddyn canmlwyddiant ‘Roald Dahl 100', gan gyflawni deg gwaith yn fwy o gyfranogiad nag yn nathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas ddwy flynedd ynghynt.

Datgelu Dahl Cymreig: yr ymchwil

Agoriad llygad go iawn ... Newidiodd pob un o'r ysgrifau hyn fy nealltwriaeth... Cefais well dealltwriaeth o arwyddocâd cyffredinol perthnasoedd traws-ddosbarth a thrawsddiwylliannol yng ngwaith [Dahl]
Jeni Williams Gwales

Ar ganmlwyddiant geni Dahl yn Llandaf, Cymru, cyhoeddwyd Roald Dahl: Wales of the Unexpected (Gwasg Prifysgol Cymru), sy'n cofnodi am y tro cyntaf arwyddocâd parhaol a dylanwad treiddiol Cymru ym mywyd a gwaith Dahl.

Gan ddarllen ehangder cyfanrwydd cynnyrch llenyddol Dahl, mae'r casgliad hwn o ysgrifau - a olygwyd gan Damian Walford Davies, gyda chydweithwyr o Gaerdydd, Tomos Owen, Siwan Rosser, Carrie Smith a Heather Worthington, yn cyfrannu penodau  –  yn nodi'r lensys Cymreig yr edrychai Dahl drwyddynt ar y byd ac yn trafod hunaniaethau diwylliannol hybrid yr awdur.

Magic book

Daw'r ymchwil â Dahl yn ôl i Gymru, gan ddatgelu'r canlynol:

  • Sut y ffurfiwyd ei safbwynt a'i egwyddorion - cenedlaethol a rhyngwladol - gan gymunedau, daearyddiaeth, diwylliant a hanes Cymreig penodol
  • Dyled ei arloesi ieithyddol i amgylcheddau a phrofiadau Cymreig.
  • Lle profiad diwydiannol de Cymru yn ei ffuglen
  • Y ffordd yr hyrwyddai bobl yr ymylon a'r difreintiedig fel rhan o weledigaeth gymdeithasol gynhwysol yng Nghymru, a'i weithredoedd cymhleth o wrthsefyll yn wyneb diwylliannau trechol

Wrth gyflawni hyn mae'r casgliad yn rhoi statws ac ystyron newydd i ffuglen Dahl i blant, ac yn cynnig archwiliad dadlennol o'r llawysgrifau. Mae'r astudiaeth amlweddog yn cydnabod darlleniadau'n seiliedig ar le gyda chynildeb diwylliannol, ac yn nodi hefyd natur annaearol cyfieithiadau Cymraeg o waith Dahl.

Blwyddyn y canmlwyddiant: datganoli Dahl

Ysgogodd ymchwil Caerdydd Lenyddiaeth Cymru i ail-leoli’n radical, o fod yn sefydliad oedd ar y cyfan yn cyflwyno gweithgareddau i gynulleidfa freintiedig i fod yn gwmni oedd, o ran egwyddor ac yn unol â gwerthoedd Dahl, yn gweithio drwy fodel ymgysylltu newydd i gyrraedd demograffeg ehangach sylweddol fwy, gan ymateb yn gadarnhaol i'r hinsawdd cyllido celfyddydau cyhoeddus.

Caniataodd dathliad cyhoeddus a sifig sylweddol ‘Roald Dahl 100’ yn 2016 i Lenyddiaeth Cymru roi'r trawsnewidiad unwaith mewn cenhedlaeth hwn ar waith. Yn ystod cyfnod Damian Walford Davies yn Gadeirydd (2012-18), dyfeisiodd Llenyddiaeth Cymru fodel gwaith allgymorth llawn dychymyg oedd yn addas i ysgogi lefel uwch o ymgysylltu a chyrhaeddiad ar draws cymunedau amrywiol.

Gan gydnabod dylanwad lleoedd, pobl a phrofiadau Cymreig ar waith Dahl, tynnodd Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ac Ystâd Roald Dahl, ar y themâu allweddol a ddatgelwyd gan ymchwil Caerdydd i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru a chyllid Digwyddiadau Mawr. Cysylltodd rhaglen chwyldroadol Llenyddiaeth Cymru Dyfeisio Digwyddiad â thros 43,000 o bobl drwy 183 o ddigwyddiadau unigol. Gan fabwysiadu dull dan arweiniad artistiaid a chyfranogwyr, ysgogodd y cwmni'r genedl i ddarllen ac ysgrifennu’n greadigol mewn sawl genre - oedd yn gwella hyder, cyfathrebu, llythrennedd, creadigrwydd a datrys problemau. At hynny, cydnabuwyd eu gwaith gyda theuluoedd difreintiedig a grwpiau na wasanaethir yn ddigonol gyda Gwobr Celfyddydau a Busnes.

Gwahaniaeth Dahl: strategaeth, cyflawni, gwella bywydau

Cafodd y newid dwfn a pharhaol i fodel ymgysylltu Llenyddiaeth Cymru ei wreiddio ar draws gweithrediadau'r cwmni ar ôl 2016.

Drwy annog cymunedau i ddyfeisio a chyflwyno eu cynnwys eu hunain, a dilyn yr uchelgais mwyaf Dahl-aidd - sef ymgysylltu â'r bobl fwyaf ymylol yn ein cymunedau a gwneud hynny drwy chwarae, nid nawdd - mae Llenyddiaeth Cymru'n parhau i gael eu hysbrydoli gan yr hyn a ddatgelwyd yng ngwaith Dahl wrth iddynt:

  • gyflwyno - a chwilio am - lenyddiaeth ymhlith cynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau annisgwyl
  • amrywio eu partneriaethau y tu hwnt i'r celfyddydau
  • gosod ysgrifennu dychmygus wrth galon pob agenda, gan gynnwys lles a chyflogaeth
  • chwalu'r gwahaniaethau rhwng ffuglen i blant ac i oedolion
  • rhoi llais i genedlaethau'r dyfodol drwy Fardd Plant Cymru a thrwy greu rôl Young People’s Laureate Wales

O gategori newydd Gwobr Llenyddiaeth Plant Llyfr y Flwyddyn i ryddhau potensial creadigol grwpiau amrywiol 'na chânt eu clywed’ (fel y rhai sy'n wynebu cyflyrau diwedd oes a digartrefedd), mae Llenyddiaeth Cymru, gyda Dahl Cymreig yn ysbrydoliaeth, bellach yn chwarae rhan genedlaethol briodol i gyflymu grym llenyddiaeth i wella bywydau a chyflwyno canlyniadau diriaethol.

Child reading book

Meet the team

Key contacts

Publications