Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Rydyn ni'n cynnig y cyfle i wneud cais i astudio dramor ar gyfer y rhan fwyaf o'n rhaglenni gradd trwy ein partneriaethau rhyngwladol.

Mae astudio dramor yn rhoi’r cyfle ichi ystyried safbwyntiau newydd ar eich astudiaethau a'r byd ehangach. Byddwch chi’n datblygu ystod ddyfnach o sgiliau trosglwyddadwy megis y gallu i ymaddasu, rheoli amser, datrys problemau a chyfathrebu rhyngddiwylliannol.

Efallai y cewch y cyfle i loywi eich sgiliau iaith, neu hyd yn oed ddysgu iaith dramor newydd. Gan gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol, byddwch chi’n creu cyfeillgarwch a rhwydweithiau a all bara am oes gyfan.

Dewis eang o gyrchfannau

Mae ein sefydliadau partner yn rhychwantu cyfandiroedd. Bydd y cyrchfannau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, a rhestrir enghreifftiau diweddar isod.

Ewrop

  • Coleg y Brifysgol Dulyn (Iwerddon)
  • Prifysgol Bremen (Yr Almaen)
  • Prifysgol Regensburg (Yr Almaen)
  • Prifysgol Oslo (Norwy)
  • Prifysgol Siarl (Prâg)

Awstralasia

  • Prifysgol Macquarie (Sydney, Awstralia)

Gogledd America

  • Prifysgol y Frenhines (Kingston, Canada)
  • Prifysgol British Columbia (Okanagan, Canada)
  • Prifysgol Loyola Marymount (Los Angeles, UDA)
  • Prifysgol Florida (Gainsville, UDA)
  • Prifysgol Talaith San Francisco (California, UDA)
  • Prifysgol Talaith Efrog Newydd (New Paltz, UDA)
  • Coleg William a Mary (Virginia, UDA)
  • Prifysgol Gorllewin Virginia (Morgantown, UDA)

Pryd galla i astudio dramor?

Rydym yn cynnig blwyddyn o astudio dramor (blwyddyn 3).

Rydych yn gwneud cais ym mlwyddyn 2, gan ddychwelyd am flwyddyn olaf o astudio (blwyddyn 4). Mae amodau'n berthnasol.

Do it! It was hands-down the best decision I’ve ever made in my life. I have a wealth of life experiences now which I would have never got it if I hadn’t done the exchange programme.

Sara Rahman

Cyllid

Mae’r cyllid yn amrywio yn ôl lle rydych chi'n dewis astudio. Bydd myfyrwyr fel arfer yn derbyn cyllid i astudio dramor gan un o nifer o ffrydiau ariannu e.e. Taith (Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru), Cynllun Turing (rhaglen fyd-eang Llywodraeth y DU i astudio/gweithio dramor) neu fwrsariaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Bydd y cyllid a roddir yn cynorthwyo o ran y costau byw cyffredinol a bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar wlad y gyrchfan.

Iaith yr addysgu a’r asesu

Bydd y modiwlau’n cael eu haddysgu a’u hasesu yn Saesneg.

Cydlynydd cyfnewid Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth