Llenyddiaeth Saesneg
English Literature at Cardiff University
Dewch i ddarganfod cyfoeth hanesyddol Llenyddiaeth Saesneg.
Mae astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi'r cyfle i chi ddod ar draws holl amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg, o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd i'r unfed ganrif ar hugain.
Ar ôl y Flwyddyn Gyntaf sylfaenol, nid oed unrhyw fodiwlau gorfodol. Rydym yn rhoi'r cyfle i chi lywio eich llwybr eich hun ar gyfer eich gradd, ynghyd â rhoi'r cyngor i chi gael gwneud dewisiadau gwybodus.
Mae ein cwricwlwm yn cynnwys pynciau amrywiol fel barddoniaeth Ramantaidd, llenyddiaeth plant, ffuglen gothig, theori feirniadol, ffuglen droseddol a Shakespeare. Rydym yn astudio testunau byd-eang o amrywiaeth o safbwyntiau.
Mae yna gyfle hefyd yn yr ail ar drydedd flwyddyn i astudio'r ddisgyblaeth cyfannol, Ysgrifennu Creadigol.
Ni fydd eich astudiaethau wedi eu cyfyngu i'r geiriau hynny sydd wedi'u hargraffu; mae ein haddysgu'n adlweyrchu'r cysylltiad diddorol rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd.
Graddau anrhydedd sengl
Amser llawn
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (BA) | Q300 |
Llenyddiaeth Saesneg (BA) | Q306 |
Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol (BA) | QW11 |
Rhan-amser
Graddau cyfanrhydedd
Eich dyfodol mewn golwg
Mae gan raddedigion Llenyddiaeth Saesneg sgiliau dadansoddi a chyfathrebu gwych sy'n eu paratoi ar gyfer ystod o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Gwerthfawrogir eu gwybodaeth ddiwylliannol a'u clyfrwch cysyniadol yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac o fewn yr ystafell ddosbarth, y llysoedd cyfreithiol a'r cyfryngau.
More information on our undergraduate courses, plus where they might take you, is available on our course finder.