Ewch i’r prif gynnwys

Saesneg Iaith

English Language at Cardiff University

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut y mae iaith yn gweithio fel system, sut mae’n ffurfio’r byd o'n cwmpas, a sut mae’n croestorri â diwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth.

Cynrychioli a llunio'r byd

Rydym wedi ein hamgylchynu gan iaith. Dyma sut rydym ni'n cynrychioli a'n llunio'r byd o'n cwmpas, Mae astudio Saesneg Iaith ar lefel gradd yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae iaith yn gweithio fel system, sut caiff ei ddefnyddio er mwyn mynegi hunaniaeth a sut caiff ei ddefnyddio er mwyn adlewyrchu a llywio agweddau.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff academaidd sy'n gweithio ar flaen y gad mewn gwaith ymchwil yn eu meysydd. Byddant yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar y gwaith ymchwil iaith Saesneg mwyaf arloesol a chyfredol.

Eich dyfodol mewn golwg

Mae graddau mewn Saesneg Iaith yn cyfuno'r sgiliau dyniaethau gorau (cyfathrebu gwych, synthesis a dadansoddi) a sgiliau'r gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol cadarn a'r dull systematig). Mae cyrchnodau cyffredin ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys therapi iaith a lleferydd, addysgu cynradd ac uwchradd, TEFL, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gwerthiant a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Rhaglenni gradd anrhydedd sengl

Amser llawn

Rhaglenni gradd cydanrhydedd

Enw’r radd Cymhwyster Côd UCAS
Athroniaeth ac Ieithyddiaeth BA QV36
Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA QQ36
Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern BA R755