Ymchwil ôl-raddedig
Ymunwch â'n hamgylchedd rhyngddisgyblaethol cefnogol sy'n cynhyrchu a'n rhannu ymchwil sy'n arwain y byd.
Gallwch gymryd rhan yn ein rhaglenni PhD amser llawn neu rhan amser. Maent yn cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Yr eithriad yw ein rhaglen PhD Ieithyddiaeth Gymhwysol (Astudiaethau Geiregol), sydd ar gael yn rhan amser yn unig, a sy'n cychwyn ym mis Hydref.
Rydym yn cynnig cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig yn:
- PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol
- PhD neu MPhil mewn Theori Critigol a Diwylliannol
- PhD neu MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg
- PhD neu MPhil mewn Iaith a Chyfathrebu
- PhD neu MPhil mewn Athroniaeth
Caiff myfyrwyr eu goruchwylio gan ymchwilwyr sy'n arweinwyr yn eu meysydd, ac maent yn mwynhau'r fantais o ymuno ag amgylchedd ymchwil mawreddog a dynamig gyda chefnogaeth dda, sy'n cynnwys cyfleusterau rhagorol.
Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn aelodau allweddol o'n cymuned gefnogol, fywiog a deallusol. Mae ein grwpiau darllen niferus, seminarau ymchwil, gweithdai a chynadleddau (nifer ohonynt wedi'u trefnu gan ymchwilwyr ôl-raddedig) yn darparu llwyfan cyffrous er mwyn arddangos cysyniadau newydd, dod o hyd i broblemau a rhoi cynnig ar syniadau newydd.
Full details on our MPhil and PhD programmes, including possible career paths, are available in course finder.