Ein lleoliad a’n cyfleusterau
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad John Percival ar gampws Parc Cathays.
Mae gennym ystod o gyfleusterau o'r radd flaenaf sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion myfyrwyr gan gynnwys ystafell TG ar gyfer ôl-raddedigion, lleoedd i ymwelwyr academaidd a chanolfan cymorth ysgrifennu. Mae ein cyfleusterau, ochr yn ochr ag ystâd estynedig y Brifysgol, yn dod ynghyd i gynnig cefnogaeth bwrpasol ar gyfer ein hegwyddor ymchwil allweddol o gydweithredu trawsddisgyblaethol a chreadigol.
Mae’r ardal ymchwil ac addysgu’r ysgolion wedi'u lleoli yn bennaf yn Adeilad John Percival, wrth ymyl Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Rydym o fewn pellter cerdded hawdd i gyfleusterau a gwasanaethau cefnogaeth y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chanol dinas fywiog Caerdydd.
Ein cyfeiriad
Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Adeilad John Percival
Prifysgol Caerdydd
Heol Colum
Caerdydd
CF10 3EU
Gallwch weld map o'n campws sy'n nodi lleoliad adeiladau lle mae'n ysgolion academaidd, llety a gwasanaethau eraill.