Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Roedd 92% o'n graddedigion baglor a 93% o raddedigion ôl-raddedig mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Mae cyflogadwyedd yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i'ch paratoi ar gyfer bywyd y tu allan i addysg. Rydym hefyd am eich cefnogi i gyflawni eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol mewn marchnad swyddi gystadleuol. Mae ein cefnogaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Cofiwch, nid yw hi byth yn rhy gynnar dechrau cynllunio ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol, felly manteisiwch ar y cyfleoedd a gynigir a chael y dechrau gorau posibl.
O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn hwyluso gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd. Mae ein graddedigion yn defnyddio eu sgiliau newydd ar draws sbectrwm eang o swyddi, yn enwedig yn y cyfryngau, byd addysg a’r gwasanaeth sifil. Er bod addysgu, y gyfraith, proffesiynau ym maes ieithoedd, cyhoeddi a’r cysylltiadau cyhoeddus yn arbennig o boblogaidd, mae cynrychiolaeth dda o’r sectorau busnes a masnachol eraill hefyd.
Cymorth gyrfaol penodol
Rydym ni'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam, gan gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy'r flwyddyn.
Beth bynnag yw eich uchelgais gyrfa gallwn eich rhoi ar ben ffordd gyda'n hamrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.
Mae cefnogaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd yn cynnwys:
- sesiynau un-i-un trwy apwyntiad
- gweithdai ar gyfer CVs, ffurflenni cais a chyfweliadau
- sesiynau cynllunio gyrfa, gan gynnwys dewisiadau gyrfa ar gyfer eich gradd Ddyniaethau
- dosbarth meistr LinkedIn
- digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol
- siaradwyr gwadd proffesiynol o ystod eang o sectorau (e.e. cyhoeddi, treftadaeth, elusennau)
- lleoliadau profiad gwaith a chyngor
- gweithgareddau menter
- gwybodaeth gyfredol am y farchnad lafur.
Meithrin sgiliau cyflogadwyedd
Israddedig
Rydym yn cynnig modiwl cyflogadwyedd i feithrin sgiliau cyflogadwyedd y gallwch eu defnyddio mewn ystod o yrfaoedd proffesiynol a graddedig.
Rydym wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd er mwyn dyfeisio a chynnal y modiwl dewisol hwn ar gyfer israddedigion. Mae wedi’i deilwra i gynnig y sylfeini ar gyfer adeiladu gyrfa ac mae hefyd yn cynnwys lleoliad gwaith.
Mae gan fyfyrwyr yr hyblygrwydd i drefnu lleoliad gwaith sydd o wir ddiddordeb iddynt ac ar amser sy'n addas, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgol. Rhaid i leoliadau gwaith, hyfforddiant tebyg neu leoliad arbrofol fod o leiaf 35 awr o hyd.
Ôl-raddedig
Mae hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o bob modiwl Ymchwil craidd y rhaglenni Meistr. Mae’n caniatáu i fyfyrwyr ymarfer a pherffeithio ystod o sgiliau ymchwil a chyfathrebu proffesiynol craidd fydd yn eu cynorthwyo gyda'u hastudiaethau MA a thu hwnt.
Mae ein rhaglen Ysgrifennu Creadigol MA yn cynnig symposiwm undydd ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn flynyddol. Mae’n agored i bawb ac yn cynnig cyfle i chi gwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y maes.
Mae'r cyfleoedd hyn, ynghyd â'r sesiynau un i un a gynigir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, yn cefnogi myfyrwyr i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl pan fyddant yn dechrau cyflwyno ceisiadau am swyddi.
Straeon myfyrwyr
Cysylltu â ni
Mae’r gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhlas y Parc.
Claire Hudson yw cynghorydd gyrfaol yr Ysgol. Unwaith y byddwch yn fyfyriwr, gallwch drefnu apwyntiad gyda Claire drwy eich Cyfrif Gyrfaoedd.
Gallwch hefyd gyrchu ystod o adnoddau dysgu rhyngweithiol trwy Taith Eich Gyrfa ar-lein.
Careers and Employability
Claire Hudson
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.
Mae dysgu mewn amgylchedd ymchwil yn golygu bod y myfyrwyr yn rhyngweithio gydag ymchwilwyr sy’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn eu disgyblaethau.