Ewch i’r prif gynnwys

Grwpiau ymchwil

Yn yr Ysgol Peirianneg mae pedwar ar ddeg o grwpiau ymchwil sefydledig sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau ymchwil allweddol ar draws ym maes peirianneg.

Trefnir y grwpiau hyn yn dair adran i sicrhau ein bod yn cynnal cryfder arbenigedd ein disgyblaethau.

Peirianneg bensaernïol, sifil ac amgylcheddol

Mecaneg Gyfrifiadurol a Grŵp Ymchwil AI Peirianneg

Technegau modelu a dulliau cyfrifiadurol ar gyfer peirianneg uwch o ddeunyddiau, solidau a strwythurau.

Canolfan Ymchwil Cudd-wybodaeth Drefol

Ein nod yw paratoi’r ffordd ar gyfer cenhedlaeth newydd o adeiladau digidol sydd â gwydnwch oes gyfan ac sy’n gallu addasu i’w hamgylchedd, eu defnydd a’r sawl sy’n eu meddiannu.

Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol

Edrych i'r Ddaear i ddarparu ffynonellau ynni newydd ac atebion i wastraff.

Canolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol

Peirianneg a rheoli dŵr, o ynni llif llanw i atal difrod llifogydd.

Strwythurau Gwydn a Deunyddiau Adeiladu (RESCOM)

Developing a new generation of unique, versatile and robust self-healing construction materials.

Peirianneg drydanol ac electronig

Grŵp Ymchwil Magneteg a Deunyddiau

Ymchwil i gynhyrchu, nodweddu a chymhwyso deunyddiau magnetig.

Canolfan Ymchwil i Uwch Beirianneg Foltedd Uchel

Deall systemau a ffenomena foltedd uchel, o'r Grid Cenedlaethol i drawiadau mellt ar awyrennau.

Canolfan Peirianneg Amledd Uchel

Ymchwil mewn cyfathrebu, synwyryddion a deunyddiau ar gyfer diogelwch, ynni ac iechyd.

Y Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Adnewyddadwy Integredig

Ateb yr heriau technegol o symud tuag at system ynni carbon isel.

Peirianneg fecanyddol a meddygol

Mae Peirianneg Feddygol yn cwmpasu’r adran Peirianneg Drydanol ac Electronig a'r adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol.

Grŵp Ymchwil Peirianneg Feddygol

Defnyddio'r ymchwil ddiweddaraf ym maes peirianneg feddygol i helpu i ddatrys heriau ym maes meddygaeth a gofal iechyd yn y dyfodol.

Grŵp Ymchwil Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

Ymchwil arloesol i ddeunyddiau, systemau a thechnolegau i lawr i'r raddfa micro/nano.

Canolfan Ymchwilio i Ynni, Gwastraff a'r Amgylchedd

Cynhyrchu a defnyddio pŵer trydanol fforddiadwy, gyriant a gwres gyda'r effaith amgylcheddol neu gymdeithasol leiaf posibl, ac optimeiddio prosesau diwydiannol.

Roboteg a Pheiriannau Deallus Awtonomaidd

Creu robotiaid ymreolaethol a systemau deallus a all fynd i'r afael â phroblemau heriol mewn amgylcheddau distrwythur.