Ynni cynaliadwy
Rydyn ni’n helpu i gynhyrchu, cyflenwi a defnyddio ynni glân ac adnewyddadwy, a chreu amgylchedd cynaliadwy er dyfodol ein planed.
Ein bwriad yw datblygu technoleg ynni, a chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â cheisio ateb y galw cynyddol am dechnolegau cynaliadwy a charbon isel, i gyd tra’n lleddfu’r effaith amgylcheddol a hwyluso amgylchedd cynaliadwy. Mae ein gwaith yn helpu i sbarduno atebion sero net at ddibenion bodloni targedau Llywodraeth y DU.
Rydyn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid diwydiannol, gweinyddol ac academaidd megis y Grid Cenedlaethol, Wales and West Utilities, Scottish Power Energy Networks, Llywodraeth Cymru a Chynghrair GW4 i osod sylfaen cadarn ar gyfer rhagor o dwf a phrosiectau, yn enwedig ynghylch datblygu isadeiledd ynni’r dyfodol.
Arbenigedd
Mae arbenigedd gan ein hymchwilwyr yn y meysydd canlynol:
- technolegau ynni adnewyddadwy
- gridiau clyfar
- isadeiledd integreiddio amryw fathau o ynni
- electroneg pŵer, MVdc ac HVdc
- datgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth
- cyfnewid ynni rhwng cymheiriaid
- cynhyrchu gwres a phŵer carbon isel
- tanwyddau amgen
- rheoli ynni adeiladau ac ardaloedd
- cerbydau trydan
- systemau inswleiddio nwy a’r awyr agored
- systemau daearu a diogelwch trydan
- systemau inswleiddio awyrennau
- deunyddiau ynni.
Uchafbwyntiau a buddsoddiadau diweddar
Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae llwyddiant rhaglen FLEXIS, sef prosiect Cronfa Datblygu Rhanbarthol yr UE gwerth £24 miliwn a gynlluniwyd i gryfhau gallu Cymru i gynnal ymchwil i systemau ynni, i gyd wedi’i seilio ar ymchwil o safon fyd-eang a wneir ledled prifysgolion Cymru. Un o nodau eraill y rhaglen yw dangos systemau a syniadau newydd ym maes ynni i wella ei hyfywedd masnachol. Dan arweiniad y Ganolfan Ymchwil Ddaear-amgylcheddol, mae staff ym mhob adran o’r Ysgol Peirianneg a ledled chwe ysgol academaidd Prifysgol Caerdydd ynghlwm wrth y cydweithio.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o brosiect £18 miliwn yr UK Energy Research Centre, sef prosiect sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg wrth bontio i’r system a’r economi ynni sero net.
Mae ein hymchwilwyr hefyd yn rhan o brosiect £5.3 miliwn Canolfan Rhwydwaith Ynni SUPERGEN, sy’n dod â chymuned fywiog ac amrywiol y rhwydweithiau ynni at ei gilydd i ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r rhwydweithiau ynni yn rhyngweithio ac yn dibynnu ar ei gilydd. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn arwain prosiect amlddisgyblaethol gwerth £1 miliwn, sef y Rhwydwaith Dadgarboneiddio Trafnidiaeth trwy Drydaneiddio, sy’n mynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm wrth weithredu sector trafnidiaeth yn y DU sy’n drydanol, yn gost-effeithiol, ac yn cael ei gynnal mewn modd cyfannol.
Arweinwyr yr ymchwil
Yr Athro Liana Cipcigan
Athro Trydaneiddio Trafnidiaeth a Gridiau Smart
Yr Athro Haijiang Li
Athro - Cadeirydd yn BIM ar gyfer Peirianneg Smart
Yr Athro Jun Liang
Athro Electroneg Pŵer a Rhwydweithiau Pŵer
Yr Athro Monjur Mourshed
Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol ac Athro Peirianneg Gynaliadwy