Lled-ddargludyddion cyfansawdd a’u dibenion
Rydyn ni’n dod ag ymchwilwyr a diwydiannau at ei gilydd i gynnig y nwyddau, y gwasanaethau a’r medrau diweddaraf ynghylch technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth wraidd y dyfeisiau technolegol rydyn ni’n eu defnyddio heddiw megis ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechi, cyfathrebu trwy loeren a GPS. Ein nod yw ateb galw y cwsmer am offer da drwy greu ffyrdd eglur ac effeithiol o ddod ag ymchwil a thechnolegau masnachol i brosesau cynhyrchu mewn modd dibynadwy a chyflym.
O ganlyniad i’n hymchwil i dechnegau nodweddu modern, opteg gwantwm a ffyrdd arloesol o lunio cylchedau, rydyn ni ymhlith y sefydliadau mwyaf blaengar yn Ewrop ym maes llunio a defnyddio technolegau lled-ddargludyddion, gan gynnig y cyfleusterau diweddaraf i annog ymchwilwyr a’r byd diwydiannol i gydweithio - er enghraifft, gwaith cefnogi’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchu transistorau amledd uchel yn ne Cymru.
Mae Sefydliad y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi’i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi newydd ac, o ganlyniad, mae ymchwil i electroneg lled-ddargludyddion wrth galon Campws Arloesi Caerdydd - sy’n safle newydd gwerth £300 miliwn. Prifysgol Caerdydd yw sylfaenydd Canolfan y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n manteisio ar arbenigedd cyfredol Prifysgol Caerdydd, gan gydweithio’n agos â chwmnïau megis IQE, Microchip, SPTS Technologies, Newport Wafer Fab a CSA Catapult.
Arbenigedd
Mae arbenigedd gan ein hymchwilwyr yn y meysydd canlynol:
- Twf epitacsiol a deunyddiau lled-ddargludyddion
- Creu, cynhyrchu a nodweddu lled-ddargludyddion
- Dyfeisiau amledd uchel a chylchedau integredig
- Dulliau llunio cylchedau effeithlon iawn
- Delweddu, synwyryddion ac offerynnau
- Nodweddu microdonnau a thonnau mm
- Gwyddoniaeth a thechnoleg nano-raddfeydd
- Microhylifeg a synwyryddion
- Optoelectroneg
Uchafbwyntiau a buddsoddiadau diweddar
Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae partneriaeth gydag Ysgol Ffiseg Prifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Cynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC gwerth £10 miliwn, sy’n anelu at drosi canlyniadau ymchwil yn dwf ar raddfa fawr a chreu dyfeisiau datblygedig.
Mae ein hymchwilwyr yn helpu i ddatblygu galiwm nitrid yn gyflymach yn y DU drwy ddod â chadwyn gyflenwi gyflawn i offer cynhyrchu transistorau amledd uchel yn ne Cymru yn rhan o brosiect £5.2 miliwn Galiwm Nitrid er Cysylltedd a Diogelwch, yn ogystal â grant £4 miliwn ar brosiect integreiddio galiwm nitrid i electroneg microdonnau diemyntau.
Arweinwyr yr ymchwil
Dr Jonny Lees
Pennaeth Adran, Peirianneg Drydanol ac Electronig
Darllenydd
Yr Athro David Wallis
Athro - Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Cyfarwyddwr Rhyngwyneb Academaidd, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd