Isadeiledd sifil
Mae’n galluoedd a’n deunyddiau modelu uwch yn gwella cynaliadwyedd a chadernid isadeiledd ledled y DU a’r byd.
Rydyn ni’n llunio atebion cynaliadwy a gwydn cylch bywyd mewn amrywiaeth helaeth o feysydd megis adeiladu, strwythurau, ynni, materion daear-amgylcheddol a systemau isadeiledd dŵr. Boed greu deunyddiau craff newydd ar raddfa fach neu gynnal prosiectau trefol ar raddfa fawr.
Ein nod yw gwella cynaliadwyedd a gwydnwch yr amgylchedd adeiledig a lleddfu effeithiau niweidiol gwastraff ar yr amgylchedd. Rydyn ni’n datrys problemau trin dŵr a chael gwared ar wastraff hefyd, yn ogystal â dyfeisio ffyrdd newydd o helpu i gynnal amgylchedd y dŵr a’r ddaear.
Trwy fodelu cyfrifiadurol, rydyn ni’n ymchwilio i lif, ansawdd, gwaddod a phrosesau cludo difwynwyr dyfroedd arfordirol, aberoedd a basnau afonydd yn ogystal â rheoli peryglon llifogydd a stormydd.
Un o’n prif feysydd ymchwil yw llunio a phrofi deunyddiau biomimetig a strwythurau deallus gan gynnwys asesu cylch bywyd deunyddiau a strwythurau o’r fath a dyfeisio ffyrdd o werthuso pa mor gryf a defnyddiol fyddan nhw ar waith.
Ymhlith ein partneriaid diwydiannol mae BRE, Costain, Lucas, WS Atkins ac Asiantaeth y Priffyrdd.
Arbenigedd
Mae arbenigedd gan ein hymchwilwyr yn y meysydd canlynol:
- mecaneg gymhwysol a chyfrifiadurol
- deallusrwydd artiffisial yn yr amgylchedd adeiledig
- biodaearodechnegau a biodaeraocemeg
- gwydnwch yr amgylchedd adeiledig
- systemau arfordiroedd, afonydd ac aberoedd
- natur llif mewn pridd a deunyddiau sy’n cynnwys sment
- trawsnewid a gefeillio digidol
- rheoli perygl llifogydd
- asesu cylch oes a chylchogrwydd
- nanoddeunyddiau
- gwydnwch naturiol systemau
- modelu rhifiadol
- rheoli perfformiad yr amgylchedd adeiledig
- deunyddiau adeiladu a all eu hiacháu eu hunain (biomimetig)
- peirianneg clyfar
- peirianneg gwydnwch strwythurol
Uchafbwyntiau a buddsoddiadau diweddar
Mae’r Grŵp Ymchwil Deunyddiau am Oes yn arwain Rhaglen Deunyddiau Gwydn am Oes £4.8 miliwn ei gwerth a fydd yn datblygu deunyddiau adeiladu unigryw a chadarn aml eu dibenion megis concrit sy’n gallu ei ddadansoddi a’i iacháu ei hun.
Ymhlith uchafbwyntiau ein Canolfan Ymchwil Ddaear-amgylcheddol mae arwain prosiect INSPIRE gwerth £1.3 miliwn wedi’i ariannu gan NERC, gan helpu i ddatblygu ymchwil i ffyrdd newydd o adennill adnoddau o domenni gwastraff a phrosiect ASPIRE (Accelerated Supergene Processes in Repository Engineering) £1.5 miliwn ei werth wedi’i hariannu gan EPSRC, sy’n ystyried pa wyddoniaeth sylfaenol, peirianneg a pholisïau y bydd eu hangen er mwyn cynhyrchu domenni gwastraff a fydd yn gallu eu glanhau eu hunain.
Mae Canolfan Peirianneg Gynaliadwy wedi cydweithio â chwmni Atkins Global mewn amrywiaeth eang o fentrau a phrosiectau diwydiannol, ymchwil a datblygu. Mae’r grŵp hefyd yn arwain y Rhwydwaith Cydymffurfio Digidol, corff sy’n rhoi adroddiadau am gyflwr cydymffurfio rheoleiddiol trwy beiriant yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd a’r ffordd orau o drin a thrafod rheoliadau digidol yn yr amgylchedd adeiledig o dan adain Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM).
Ymhlith llwyddiannau eraill mae Canolfan yr Ymchwil Hydro-amgylcheddol wedi ennill Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie i ystyried deinameg gwaddod tagfeydd coed mewn ffrydiau a chyfleusterau wedi’u rheoli gan arwain at Gymrodoriaeth Ymchwil Academi Frenhinol Peirianneg (£499,000) a Chymrodoriaeth Ddiwydiannol Sêr Cymru (£150,000).
Arweinwyr yr ymchwil
Yr Athro Peter Cleall
Pennaeth yr Adran Peirianneg Pensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol
Yr Athro Haijiang Li
Athro - Cadeirydd yn BIM ar gyfer Peirianneg Smart