Ewch i’r prif gynnwys

Labordy mesureg Renishaw

Mae gan y cyfleuster hwn systemau mesur o'r radd flaenaf at ddibenion gweithgareddau addysgu ac ymchwil. Mae'n seiliedig ar waith hirsefydlog ar y cyd rhwng yr Ysgol Peirianneg a chwmni Renishaw a ddarparodd gyfarpar mesur sy'n arwain y byd, ac maen nhw’n cefnogi’r cyfarpar hwn o hyd.

Cyfarpar cydlynu peiriannau mesur (CMM)

CMM ar raddfa ddiwydiannol â rheolydd Renishaw a system pen a chwiliedydd mesur aml-echel REVO-2. Yn rhan o hyn mae system mesur gorffeniadau wyneb SFP2 sy'n cefnogi’r gallu i gynnig mesuriadau untro.

Yn sgîl dwy system fedryddu hyblyg Equator 300 a phecynnau gosodion mae modd rhoi uwch-fesuriadau hyblyg mewn pecyn hawdd ei ddefnyddio a grymus.

Mae trwyddedau lluosog ar gyfer meddalwedd MODUS a chymorth ar gyfer cymwysiadau REVO ac Equator yn golygu bod modd symud y cymwysiadau mesur o'r CMM i systemau Equator.

Gwirio perfformiad offerynnau peirianyddol

System bar peli ddi-wifr QC20-W sy’n mesur perfformiad lleoli offeryn peirianyddol gan CNC yn unol â safonau rhyngwladol cydnabyddedig.

Defnyddio chwiliedydd yn achos offer peirianyddol, systemau darnau gwaith a gosod offer sy'n gysylltiedig â CNC Recorder sy’n darparu galluoedd monitro prosesau mewn amser real.

Galluogi Ymchwil

Mae swyddogaethau CMM yn sail i ymchwil barhaus yn y Labordai Monitro Gweithgynhyrchu a Chyflyrau Adiol sydd wedi'u cydleoli. Mae hyn yn cynnwys prosiectau PhD cyfredol yn ogystal â’r rheiny a gwblhawyd yn ddiweddar:

Theocharis Alexopoulos, Dylunio a Goruchwylio Prosesau: Dull Efelychu Cenhedlaeth Nesaf o weithgynhyrchu digidol.

Jacob Hill, ‘Optimisation of Tool Life through Novel Data Acquisition and Decision Making Techniques’. Ariennir ar y cyd yn sgîl dyfarniad gan yr EPSRC ac iCASE gan Renishaw.

Paul O'Regan, ‘Process Capability Management for Additive Manufacturing’. Ariennir ar y cyd yn sgîl dyfarniad gan EPSRC ac iCASE gan Renishaw.

Zinah Ahmed, ‘An Integrated Approach to Tool Life Management’.

Addysgu â chymorth

Mae cael defnyddio’r system hon wedi cyflwyno uwch-dechnoleg CMM i fyfyrwyr ar bob lefel. Gellir eu defnyddio yn unol ag anghenion y cymhwysiad ac mae hyn yn golygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau addysgu ac ymchwil israddedig ac ôl-raddedig. Mae pob myfyriwr israddedig a meistr ym maes Peirianneg Fecanyddol wedi ymgymryd â gwaith o dan yr amgylchiadau hyn yn ystod ei astudiaethau.