Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol
Mae'r Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol (MSKBRF) yn ganolfan sy'n arwain y byd ar gyfer astudio biofecaneg ac iechyd cyhyrysgerbydol.
Mae gan y cyfleuster cyfuniad unigryw o gyfarpar o’r radd flaenaf a thîm ymroddedig o academyddion, ymchwilwyr a staff cymorth.
Rydym ni'n defnyddio dulliau arloesol ar gyfer mesur a delweddu dynameg ddynol a biofecaneg cymalau unigol. Rydym yn defnyddio dull integredig ac amlddisgyblaethol ar gyfer ymchwil, cymwysiadau a throsi yn y meysydd cyhyrysgerbydol, biofecaneg a pheirianneg fiofeddygol.
Nodau
Ein nod yw cyflawni ymchwil, addysgu, arloesedd a rhagoriaeth o safon yn y maes cyhyrysgerbydol. Rydym yn gwneud hyn drwy:
- gefnogi ymchwil ac addysgu ar draws y Brifysgol
- cynnig adnodd i glinigwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid
- cynnig man atgyfeirio'r GIG ar gyfer gwasanaeth Dadansoddi Cerddediad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- rhoi mynediad at dimau chwaraeon a busnesau y mae angen data biofecanyddol, clinigol neu ffisiolegol arnynt
Ein hoffer
Mae ein labordai'n cynnig:
- dadansoddi symudiad corfforol llawn i safonau clinigol gan gynnwys dadansoddi cerddediad clinigol
- labordy addysgu pwrpasol ar wahân
- labordy fflwrosgopeg sy'n cyfuno ac yn syncroneiddio dadansoddi symudiad safonol gyda fflwrosgopeg ddeublanol (delweddaeth pelydr-x 3D ddynamig) Mae hwn yn un o nifer fach yn unig o gyfleusterau cyfatebol ledled y byd.
- ystafell sganio MicroCT
- ystafell asesu clinigol / tynnu gwaed
Hefyd mae gennym ni fynediad wedi'i reoli, man aros i ymwelwyr a chyfleusterau newid ac ymolchi penodol i gleifion.
Cymerwch olwg ar nodweddion technegol ein cyfleuster.
Ein gallu ymchwil
Mae ein canlyniadau ymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar lesiant y boblogaeth.
Mae ein hymchwil yn:
- gwella bywydau pobl sy'n dioddef o osteoarthritis a chlefydau a chyflyrau sy'n effeithio ar y system gyhyrysgerbydol
- rhoi gwybodaeth am achosion, diagnosis a sut i drin clefydau cyhyrysgerbydol megis Osteoarthritis, Arthritis Gwynegol, Osteoporosis, Clefyd Huntington, anafiadau, datgyflyru yn dilyn salwch, Sarcopenia a Chlefyd Dirywiol y Disgiau
- helpu i ddiffinio prosesau dirywiol mewn clefydau cyhyrysgerbydol
- llywio triniaethau newydd, dulliau prognostig a diagnostig er enghraifft llawdriniaeth a monitro adsefydlu
- optimeiddio ac yn profi therapïau a dyfeisiau meddygol adfywiol newydd
- creu setiau data unigryw sydd ar gael drwy fynediad agored i ymchwilwyr eraill
- meithrin cydweithio drwy greu rhwydweithiau byd-eang
- amlygu datblygiadau a allai wella iechyd y cyhoedd
- ymgysylltu â’r llywodraeth, ysgolion, diwydiant, y byd academaidd a'r cyhoedd yn ehangach
- lledaenu canlyniadau ymchwil er mwyn galluogi ymchwil bellach.
Addysgu
Mae safle unigryw'r cyfleuster ym maes byd-eang ymchwil biofecaneg yn cynnig cyfleoedd dysgu gwell i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig nad ydynt ar gael yn unman arall yn y DU.
Oherwydd ein ffynonellau cyllid ymchwil amrywiol, gall myfyrwyr ymwneud â rhaglenni ymchwil niferus, a manteisio ar setiau data a delweddau helaeth i gefnogi eu dysgu a'u gwaith prosiect.
Cyfarwyddwr y Cyfleuster
Cysylltwch â ni
Cysylltwch os hoffech weld ein cyfleusterau neu drefnu i’w defnyddio.