Ewch i’r prif gynnwys

Labordy Rhyngweithio rhwng Pobl a Robotiaid

Mae'r Labordy Rhyngweithio rhwng Pobl a Robotiaid (HRI) yn gyfleuster ymchwil penigamp a sefydlwyd gan y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS). Wedi’i halinio i agenda ymchwil IROHMS, mae ymchwil y labordy yn canolbwyntio ar ymchwilio i broblemau ymchwil ar y croestoriad rhwng deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant-dynol.

Mae defnyddwyr y labordy yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ac yn datblygu dulliau a chysyniadau newydd i gael effaith ar y maes rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid, ac ar gymdeithas. Ein prif flaenoriaethau ymchwil yw:

  • rhyngweithio a chydweithio rhwng pobl a robotiaid
  • deallusrwydd artiffisial tebyg i berson
  • ymwybyddiaeth gyd-destunol
  • rhesymu cyd-destunol
  • cydnabod a rhagfynegi bwriad
  • cyfrifiadura teimladol
  • roboteg eglurhaol
  • rhesymu semantig
  • chwilfrydedd robot

Gellir defnyddio technolegau ein labordy mewn sawl maes, gan gynnwys diwydiant, gofal iechyd, adloniant, chwaraeon a hyfforddiant. Mae gan y labordy gyfarpar sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil, gan gynnwys:

Care-O-bot 4

Gyda mwy nag 20 gradd rhyddid a sylfaen sy’n symud i bob cyfeiriad, gall y robot gwasanaethu hwn gynorthwyo pobl yn weithredol, e.e. yn eu bywydau bob dydd ac ym maes gofal iechyd. Defnyddir dwy fraich 7-DOF gyda dwylo un bys ar gyfer rhyngweithio mecanyddol â gwrthrychau yn yr amgylchedd.  Ar ei frest 3-DOF mae ganddo ddau gamera 3D ar gyfer monitro’r amgylchedd a chamera 3D arall ar gyfer monitro’r llawr.  Mae gan ben y robot ddangosydd panel cyffwrdd i ryngweithio â phobl ac mae’n cynnwys cylch synhwyro symudol gyda chamera 3D ar gyfer cydnabod wynebau ac ystumiau, a meicroffon ar gyfer cydnabod lleisiau.

System tracio symud Vicon

Gall gosodiad o ddeg camera Vicon Vero gyda thechnoleg uwch a rheolyddion deallus, ar y cyd â chamera Vicon RGB, olrhain pobl a gwrthrychau yn fanwl, yn gywir ac yn drylwyr. Mae’r dechnoleg yn galluogi amryw eang o ymchwil, o gydweithrediad rhwng pobl a robotiaid, i ymwybyddiaeth gyd-destunol, a mwy.

Meddalwedd efelychu ffatri Siemens

Offeryn pwerus ar gyfer modelu, efelychu, dadansoddi, delweddu ac optimeiddio systemau a phrosesau cynhyrchu sy’n cael ei ddatblygu gan feddalwedd Siemens PLM.

Olrheiniwr llygaid a chlustffon EEG

Mae’r offer hyn, sydd ar flaen y gad, yn galluogi astudio signalau ac ymddygiadau ffisiolegol dynol, sydd yn hanfodol mewn gwahanol feysydd roboteg fel deallusrwydd artiffisial tebyg i berson ac ymreolaeth y gellir ymddiried ynddi.

Clustffon realiti rhithwir HTC VIVE

Gyda delwedd eglur iawn, mae’r clustffon realiti rhithwir hwn yn cynnig pecyn cynhwysfawr i gynorthwyo defnyddwyr i elwa fwy o’r profiad realiti rhithwir.

Smart eye

Mae’r system olrhain llygaid hwn yn defnyddio camerâu digidol ar gyfer olrhain symudiad llygaid a chyfeiriad syllu mewn amser real. Mae ganddi sawl defnydd mewn gwahanol feysydd ymchwil, fel roboteg sy’n canolbwyntio ar bobl a chydnabod bwriad dynol.