Labordy monitro cyflyrau
Mae'r gweithgaredd ymchwil Monitro Cyflwr (CM) yn cael ei gynnal gan Grŵp HVM ond mae ganddo gyfleusterau profi sydd wedi’u creu’n arbennig mewn labordai cydweithio ar draws yr Ysgol Peirianneg.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Canolfan peiriant fertigol 430A clyfar canolfan fertigol Mazak
Prynwyd y Mazak 430A VMC i gynorthwyo ymchwil CM sy'n cael ei chynnal ar y cyd â Renishaw. Mae'n VMC safonol a gafodd ei addasu gan Mazak i alluogi mynediad uniongyrchol at signalau rheolydd NC nad ydynt ar gael fel arfer i ddefnyddwyr. Heblaw am y fersiwn gychwynnol ohoni yn Renishaw, mae’n gyfleuster unigryw. Gall ymchwil CM gael mynediad at signalau rheoli a’u defnyddio heb fawr o effaith ar weithrediadau peiriannu arferol Mae hefyd yn golygu nad oes angen cyfarpar neu synwyryddion ôl-osod.
Tyrbinau llanw echelin llorweddol ar raddfa 1/20
Mae Grŵp Ynni Morol Caerdydd (CMERG) wedi datblygu tri dyfais tyrbinau llanw echelin llorweddol (HATT) 1/20 sydd â chyfarpar llawn. Defnyddir y rhain i ddeall dulliau llwytho deinamig HATTs, mewn cyfluniadau unigol neu gyfunol. Gellir eu defnyddio i hysbysu datblygwyr a helpu i sicrhau bod y dulliau yn goroesi ac yn effeithiol. Mae CM yn ganolog i'r gweithgareddau hyn ac mae gan bob dyfais drawsddygiadur gwthio a throi datblygedig ar gyfer un llafn, yn ogystal â chôn trwyn sydd â’r cyfarpar llawn. Y dyfeisiau hyn yw ffrwyth llafur diweddaraf y gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda phartneriaid ymchwil sy'n cynnwys Bosch a National Instruments.
Rig datblygu HATT CM integredig
Mae'r cyfleuster profi hwn wedi'i adeiladu gan ddefnyddio dau fodur Bosch Rexroth. Y rotor yw un ohonynt a’r generadur yw’r llall. Rheolir y rig profi trwy ddwy system gyrru modur IndraDrive. Gall efelychu gweithrediad HATT ac fe'i ddefnyddir i ddatblygu a phrofi strategaethau CM. Mae’r rhain yn rhai mawr eu hangen fel sail i weithrediad a dibynadwyedd hirdymor HATTs gan fod cynnal a chadw dyfeisiau a'r costau gweithredol yn destun pryder penodol.
Gofod mecatroneg
Mae grŵp ymchwil CM yn rhannu cyfleuster sy'n gartref i amrywiaeth o gymwysiadau model ar raddfa profi’r cysyniad. Labordy addysgu ar gyfer peiranneg rheoli yw'r cyfleuster yn bennaf (~ 60%) ac fe'i noddir gan Offerynnau Cenedlaethol (NI) ac mae’n cynnwys yr offerynnau hyn. Yn ogystal â labordai rheoli a micro-brosesu, defnyddir y gofod ar gyfer gweithgareddau addysgu. Mae'r rhain yn cynnwys darlithoedd ac arddangosiadau o feddalwedd dynameg hylif cyfrifiadurol, ac maent yn berthnasol i'r grŵp CM (HATT).
Mae'r gofod ymchwil (~ 40%) hefyd yn cynnal un o brosiectau grŵp mecatroneg israddedig blwyddyn 4. Mae'r grŵp hwn yn dylunio locomotif ar gyfer her reilffordd IMechE ac yn cynnwys agweddau monitro yn eu dyluniad. Mae cyfarpar y cymhwysiad CM yn cynnwys twneli gwynt wedi'u teilwra (a ddefnyddir ar gamau cynnar gwerthusiadau monitro HATT), rig profi gripio robotig, rig profi rheoli lefel hylif (a ddefnyddir i werthuso prognostigau ac olrhain senarios gweithredol), system cludo a reolir gan PLC a model a reolir gan PLC o wasg hydrolig.