Ewch i’r prif gynnwys

Nanowyddoniaeth a nanobeirianneg

Nanoscience and Nanoengineering

Rydym ni'n gweithio i ddatblygu arloesiadau damcaniaethol, arbrofol a thechnolegol mewn nanowyddoniaeth a nanobeirianneg.

Mae nanowyddoniaeth yn cynnwys astudio ffenomenau a thrin mater ar raddfa nanometr a datblygu amrywiaeth eang o offerynnau, gwrthrychau, strwythurau, dyfeisiau, systemau a thechnegau nanodechnolegau.

Mae hwn yn faes ymchwil a datblygu sy'n symud yn gyflym. Rhagwelir yn eang y bydd y nanodechnolegau'n dod yn ffocws canolog ar gyfer sbarduno twf economaidd yn y 21ain ganrif.

Mae'r meysydd hyn yn denu buddsoddiadau sy'n cynyddu'n gyflym gan lywodraethau a busnesau mewn sawl rhan o'r byd. Nod y strategaeth bresennol yn y DU ar gyfer nanodechnolegau yw disgrifio'r gweithredu sydd ei angen i sicrhau bod y DU yn cael y budd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol gorau o nanodechnolegau a rheoli'r risgiau'n briodol ar yr un pryd.

Rydym ni'n arloesi gyda dulliau dadansoddi newydd ar gyfer echdynnu nodweddion elastig a glynol deunyddiau'n seiliedig ar broblemau gwrthdro ar gyfer mewnoli synhwyro dyfnder stilwyr sfferaidd.

Mae ein tîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys peirianwyr sifil, mecanyddol a thrydanol, ac sy’n gweithio gyda ffisegwyr a mathemategwyr, yn ceisio canfod modelau, dulliau a datrysiadau priodol i broblemau niferus ar y raddfa nano.

Cyfeiriadau ymchwil a chysylltiadau

Ar hyn o bryd mae gennym ddeg o gyfeiriadau ymchwil:

Seminarau NanoSNEG y gorffennol

18 Tachwedd 2015, yr Athro Julius Kaplunov (Prifysgol Keele): "Modelau dau-fodd cyson ar gyfer platiau haenog an-unffurf cryf" (ar y cyd â Seminar CARBTRIB)

9 Rhagfyr, 2015, Dr Margarita Staykova (Prifysgol Durham: "Dimensiwn newydd o ran swyddogaeth pilenni lipid a gefnogir"

13 Ebrill 2016, yr Athro Chris Bowen (Prifysgol Caerfaddon): "Deunyddiau a Strwythurau Piesodrydanol a Phyrodrydanol ar gyfer Cynaeafu Ynni (ar y cyd â Seminar Ymchwil MMAM)

20 Ebrill 2016, Dr Tomas Polcar (Pennaeth y Ganolfan Driboleg Genedlaethol Uwch (nCATS), Prifysgol Southampton): "Gorchuddiadau iraid soled - gweithio at arwyneb peirianneg di-ffrithiant" (ar y cyd a Seminar CARBTRIB)

28 Ebrill 2016, yr Athro Pasquale Vena (Politecnico di Milano)