Ewch i’r prif gynnwys

Mecaneg aml-ffiseg

Multiphysics Mechanics

Mae mecaneg aml-ffiseg yn defnyddio dull amlddisgyblaethol o fodelu ac efelychu deunyddiau a systemau newydd at ystod eang o ddibenion.

Trosolwg

Mae mecaneg aml-ffiseg yn cofleidio ymchwil sy’n cynnwys hafaliadau cyfansoddol y mae eu meysydd annibynnol yn disgrifio dau neu ragor o’r ymddygiadau canlynol: meysydd elastig, thermol, cemegol, ffrithiant, trawiadau, hylifau, aml-wedd, trydanol a magnetig.

Ein nodau

Ein nod yw cynyddu diddordeb ym maes ymchwil mecaneg aml-ffiseg, er mwyn arwain at greu rhwydwaith rhyng-golegol ar gyfer cydweithio ar ymchwil.

Ein meysydd ymchwil

  • polymerau sy’n weithredol yn drydanol ac yn fagnetig (gweithredu a chynaeafu ynni)
  • ymddygiad aml-wedd deunyddiau biolegol
  • cyfansoddion nanoronynnol
  • effeithiau magnetig-thermol-elastig mewn aloïau metel
  • metaddeunyddiau lled-grisialog a thopolegol
  • dulliau elfennol meidrol uwch ar gyfer problemau aml-radd/aml-wedd mewn mecaneg solidau
  • deunyddiau hunaniachaol
  • mecaneg aml-ffiseg deunyddiau wedi’u gweithgynhyrchu’n ychwanegol
  • difrod mewn deunyddiau niwclear ac iddynt strwythur wedi’i arbelydru
  • geomecaneg aml-wedd
  • dulliau cyfrifiadurol mewn dynameg hylifol
  • llifoedd rhyngwynebol ac aml-wedd
  • rhyngweithio rhwng hylifau a strwythurau
  • hylifau an-Newtonaidd
  • microhylifau a dibenion peirianneg feddygol

Ein prosiectau presennol

  • Cymrodoriaeth ymweliadol nodedig yr Academi Beirianneg Frenhinol (RAEng), yr Athro L. Dorfmann (yr Athro M. Gei).
  • Grant gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC): monitro hydrodynameg a morffoleg afonydd yn gyflym drwy ddefnyddio holograffeg (Dr. Z. Xie).
  • Prosiect gan Gronfa Newton: Gweithdy Tsieina-DU am systemau ynni adnewyddadwy arfordirol ac alltraeth o dan amgylchiadau eithafol (Dr.  Z. Xie).
  • Grant gan Raglen EPSRC: deunyddiau gwydn ar gyfer bywyd (yr Athro A. D.  Jefferson).
  • Cymrodoriaeth gan Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) a ariennir ar y cyd, efelychu effeithiau ymbelydredd ar ddeunyddiau strwythurol niwclear ac awyrofod (SRENASM), Dr O Noorikalkhoran (yr Athro M Gei).
  • Cymrodoriaeth COFUND MSCA, Mecaneg a phrosesau dynamig mewn deunyddiau lled-gyfnodol (MeDyQuaM), Dr L Morini (yr Athro M Gei).

Pobl

Arweinwyr y grŵp

Aelodau’r grŵp

Picture of Brunella Balzano

Dr Brunella Balzano

Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Strwythurol

Telephone
+44 29208 76327
Email
BalzanoB@caerdydd.ac.uk
Picture of Diane Gardner

Dr Diane Gardner

Darllenydd - Addysgu ac Ymchwil

Telephone
+44 29208 70776
Email
GardnerDR@caerdydd.ac.uk
Picture of Anthony Jefferson

Yr Athro Anthony Jefferson

Athro ac aelod o Grŵp RESCOM

Telephone
+44 29208 75697
Email
JeffersonAD@caerdydd.ac.uk
Picture of Abhishek Kundu

Dr Abhishek Kundu

Uwch Ddarlithydd - Addysgu ac Ymchwil

Telephone
+44 29208 75953
Email
KunduA2@caerdydd.ac.uk
Picture of Riccardo Maddalena

Dr Riccardo Maddalena

Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Telephone
+44 29208 76150
Email
MaddalenaR@caerdydd.ac.uk