Byw a heneiddio’n iach
Mae ymchwil byw a heneiddio’n iach yn ceisio deall a chefnogi astudiaethau ar hirhoedledd a llesiant ar sail ffactorau a phrosesau genetig, moleciwlaidd a chellog.
Trosolwg
Mae byw a heneiddio’n iach yn rhoi i bobl yr amgylchedd a’r cyfle i wneud beth sydd o werth iddyn nhw yn ystod eu hoes. Afiechydon yw’r prif fygythiad i lesiant pobl. Prif achosion marwolaeth yn y Deyrnas Unedig yn 2018 oedd:
- dementia a chlefyd Alzheimer
- clefydau isgemia'r galon
- clefydau cerebrofasgwlaidd
- clefydau resbiradol is cronig
- canser yr ysgyfaint.
Ein nodau
Rydym yn datblygu’r dulliau newydd wedi’u cyfuno â pheirianneg er mwyn atal afiechydon cysylltiedig ag oed a’u ffactorau risg, eu canfod yn gynnar a rhoi diagnosis yn eu cylch, a’u trin.
Cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK)
Mae cyflyrau MSK yn effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn, gan gyfyngu ar eu gallu i fyw a heneiddio’n iach. Ymhlith y cyflyrau hyn mae:
- osteoarthritis
- arthritis gwynegol
- gymalwst
- poen yn y cefn
- poen yn y gwddf
- ffibromyalgia
- osteoporosis.
Yn 2017 roedd y cyflyrau hyn yn cyfrif am fwy na 22% o gyfanswm y baich afiechyd yn y Deyrnas Unedig. Mae amlygrwydd yr afiechydon hyn yn cynyddu’n sylweddol gydag oed.
Mae dros 50% o’r bobl dros 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag o leiaf un cyflwr MSK. Gall hyn olygu byw mewn poen a gorfod delio gyda chyfyngiadau swyddogaethol sy’n gallu effeithio ar fywyd pob dydd, er enghraifft colli medrusrwydd, cryfder a symudedd.
Effeithiau
- Gall poen a chyfyngiadau swyddogaethol achosi blinder ac iselder o ganlyniad.
- Poen MSK yw un o’r rhwystrau allweddol i gynnal gweithgarwch corfforol, a gellir ei ystyried yn ffactor allweddol yn nechreuad cyflwr bregus.
- Mae colli cyfranogiad yn cael effaith ddifrifol ac arwyddocaol ar a yw unigolyn yn mwynhau bywyd. Mae pobl sydd â chyflyrau MSK yn fwy tebygol o fod ag ansawdd bywyd is na’r rhai heb gyflyrau MSK.
- Mae osteoarthritis yn arbennig yn achosi heneiddio cyn pryd, a marwolaethau cyn pryd. Mae pobl ag osteoarthritis yn wynebu risg uwch o farw na phobl debyg o ran oed.
Ein meysydd ymchwil
Nod ein tîm ymchwil yw gwella heneiddio iach ar gyfer y rhai sy’n dioddef o gyflyrau MSK trwy wneud y canlynol:
- cynnal gwaith ymchwil ar achosion a phatrymau afiechydon MSK er mwyn deall yn well ffactorau sy’n effeithio ar eu dechreuad a’u cynnydd
- datblygu ymchwil i driniaethau, gan gynnwys monitro adsefydlu a llawdriniaethau
- darparu adnodd ar gyfer clinigwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid.
Meysydd ymchwil eraill
- diagnosis a thriniaeth cynnar ar gyfer canser
- therapi bôn-gelloedd
- lab-ar-sglodyn
- uwchsain
- delweddu meddygol
- microhylifeg
- biosynwyryddion
- ysgerbwd cyhyrol
- biofecaneg
- dadansoddi symudiad
- ffiseg feddygol yr ymennydd a pheirianneg glinigol
- ffiseg ymbelydredd meddygol a pheirianneg
- cymwysiadau meddygol ymbelydredd
- ffiseg meddygaeth niwclear
- mesur dwysedd esgyrn a chyfansoddiad corff
- radiotherapi foleciwlaidd
- cynllunio triniaeth radiotherapi
- atal anafiadau
- ysgafnhau
- gweithgynhyrchu ychwanegion ar gyfer cymwysiadau meddygol
- orthopedeg: effeithiau triniaethau, effeithlonrwydd a chynllunio llawfeddygol, dosbarthiadau swyddogaethol a monitro adferiad cleifion
- datblygu dulliau o gywiro symudiad ar gyfer delweddau cydraniad eithriadol uchel.
Pobl
Arweinwyr themâu
Tîm ymchwil
Rydym yn croesawu’r ffaith bod cydweithwyr yn cymryd rhan yn ein hymchwil drawsddisgyblaethol.