Esbonio’r flwyddyn gyntaf
Dewch i wybod am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl yn ystod eich blwyddyn gyntaf a chithau’n fyfyriwr peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Diben blwyddyn gyntaf ein gradd yw datblygu eich gwybodaeth graidd ym maes peirianneg a chyflwyno pynciau sy’n benodol i ddisgyblaeth. Byddwch chi’n dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, dosbarthiadau dylunio, labordai ac astudio ar eich pen eich hun.
Dechrau arni
Ar ddechrau'r cwrs bydd wythnos gyflwyno brysur ond cyffrous pan gewch y cyfle i ystyried rhai o'r meysydd y byddwch chi’n dysgu amdanyn nhw yn ystod y flwyddyn gyntaf. Dyma gyfle ichi ymgyfarwyddo â rhythm bywyd prifysgol a dyma’r cyfle perffaith ichi ddod i adnabod ein staff a myfyrwyr eraill.
Eich modiwlau yn ystod y flwyddyn gyntaf
Byddwch chi’n cwblhau tri modiwl o bwys yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd hyn yn cynnwys modiwl sy'n gyffredin i bob disgyblaeth ac sy'n ymwneud â chyfrifo a chyfrifiadura. Byddwch chi hefyd yn cwblhau modiwl sy’n benodol i ddisgyblaeth. Bydd y modiwl yn archwilio hanfodion eich dewis faes peirianneg. Yn y trydydd modiwl, byddwch chi’n datblygu sgiliau a phriodoleddau'r proffesiwn. Mae hyn yn cynnwys prosiect dylunio o bwys pan fyddwch chi’n cymhwyso theori peirianyddol i her ymarferol a phenodol.
Prosiect Ymarferol
Mae car trydan, clinig iechyd symudol, ac argae trydan dŵr yn enghreifftiau o'r heriau peirianyddol dilys y gallech chi weithio arnyn nhw yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae prosiectau ymarferol yn caniatáu ichi roi eich gwybodaeth ar waith ac ennill sgiliau proffesiynol sy'n hollbwysig i broffesiwn peirianneg megis rheoli prosiectau, cyfathrebu a threfnu.
I gwblhau'r flwyddyn gyntaf, byddwch chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad arddangos prosiectau i rannu a dathlu popeth rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Tîm peirianneg go iawn
O gychwyn cyntaf y cwrs, byddwch chi’n cydweithio â myfyrwyr peirianyddol o bob rhan o’r disgyblaethau i ddatrys heriau tîm go iawn, yn union fel y byddwch yn y byd go iawn, a bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau amhrisiadwy y bydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa ym maes peirianneg. Dyma gyfle gwych i wneud ffrindiau sy’n dilyn cyrsiau eraill.
Cael eich cefnogi
Ar ddechrau’r cwrs, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ichi, a gallwch chi fynd at y person hwnnw os bydd gennych chi ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cwrs neu am fod yn fyfyriwr yn gyffredinol. Ar gyfer y cwestiynau y byddai’n well gennych chi eu gofyn i fyfyriwr presennol yn hytrach nag aelod o staff, byddwch chi’n gallu cael cyngor gan fyfyriwr sy’n mentora gan eu bod yno i roi cymorth ichi. Rydyn ni hefyd yn cynnig sesiynau dysgu anffurfiol yn ein gofod dysgu hyblyg pan fyddwch chi’n gallu gofyn cwestiynau, adolygu pwnc penodol neu weithio ar eich prosiect.
Astudio hyblyg
Os byddwch chi’n newid eich meddwl am yr hyn yr hoffech ei astudio, mewn rhai achosion, mae cyfleoedd i drosglwyddo rhwng ein rhaglenni gradd hyd at ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Rydyn ni’n cynnig opsiwn Blwyddyn Sylfaen yn gam tuag at unrhyw un o’n rhaglenni gradd. Mae hyn yn opsiwn gwych os nad oes gennych chi’r gofynion mynediad cywir i fynd yn syth ymlaen i flwyddyn gyntaf ein graddau baglor neu feistr integredig.
Dewch i wybod rhagor am y disgyblaethau peirianneg gwahanol a'rmathau o raglenni gradd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd.
Lawrlwytho ein prosbectws i raddedigion.