Peirianwyr heb ffiniau
Mae Helen Aries, Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, yn rhannu ei phrofiad gyda Pheirianwyr Heb Ffiniau.
Mae ein cymdeithas eisiau gwneud gwahaniaeth trwy beirianneg. Nid cymdeithas mo hon yn unig, ond rhwydwaith o bobl o bob cwr o'r wlad sy'n cefnogi ei gilydd i weithio tuag at gyfrifoldeb byd-eang.
Mae'r dull hwn o wneud "cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch" mewn cymdeithas yn berffaith ar gyfer myfyrwyr peirianneg, oherwydd gallwch chi ymwneud â gwahanol rannau o'r gymdeithas (neu bob agwedd), yn dibynnu ar yr hyn y mae gennych amser iddo neu y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Prosiectau ag effaith
Mae cynifer o brosiectau ac ymgyrchoedd wedi bod mor effeithiol a llawn hwyl.
Mae’r ‘Designathon’ cenedlaethol yn denu pobl o bob disgyblaeth ar draws llawer o brifysgolion i ddatrys ystod eang o broblemau. Roedd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd gyda phobl wrth greu syniadau ffynhonnell agored y gellir eu defnyddio mewn bywyd go iawn.
Archwiliodd y prosiectau lleol blynyddol y ffyrdd y gallwn fod o fudd i'n cymuned leol y gellir wedyn eu hehangu ar raddfa fwy yn genedlaethol. Roeddwn yn rhan o brosiect wal werdd a phrosiect amddiffyn rhag llifogydd.
Roedd y digwyddiad Siaradwyr Ynni Gwynt yn ymgyrch wych arall i gymryd rhan ynddi, gan annog gyrfaoedd gwyrdd trwy weithwyr proffesiynol y diwydiant yn siarad am eu llwybrau gyrfa.
Wedi'ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth
Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth gyda'r set sgiliau y byddwn i'n gobeithio ei datblygu drwy'r brifysgol. Ni edrychodd yr un o'r cymdeithasau peirianneg eraill ar y mater hwn mewn gwirionedd, er bod llywodraethau a diwydiant yn craffu’n fwyfwy ar yr effaith a gawn ar y blaned.
Pan ymunais yn y flwyddyn gyntaf, roeddwn i'n teimlo bod y gymuned yn teimlo ac yn caru'r prosiectau a'r allgymorth y gwnes i ymwneud â nhw y flwyddyn honno. Roeddwn i wrth fy modd â'r effaith roeddem ni'n ei chael, felly ymunais â'r pwyllgor i wneud cyfraniad mwy fyth i'r gwaith hwn.
Cyngor i beirianwyr newydd
Os ydych chi'n cwestiynu effeithiau'r penderfyniadau a wnewch yn gyson, yna rydych ar y ffordd i gyfrifoldeb byd-eang. Bydd y bobl o'ch cwmpas yn meddwl yn wahanol oherwydd bod ganddyn nhw brofiadau a diwylliannau eraill, felly mae cael trafodaeth a gwrando yn hynod bwysig. Dywedwch os nad yw rhywbeth yn iawn ac esbonio pam.